Mae pawb yn gwybod bod ysmygu’n gysylltiedig â chanser a chlefyd y galon ond nid oes llawer o bobl yn gwybod sut y gall effeithio ar eich esgyrn, eich cymalau a’ch cyhyrau.

Effaith ysmygu ar iechyd esgyrn, cymalau a chyhyrau

Gellir gwrthdroi llawer o’r effeithiau gwael ar iechyd cyhyrysgerbydol a achosir gan ysmygu a hyd yn oed eu hosgoi’n llwyr os gallwch leihau neu roi’r gorau i ysmygu.

Mae ysmygu yn lleihau’r cyflenwad gwaed i esgyrn a meinweoedd meddal. Mae nicotin o fewn tybaco yn arafu cynhyrchiant celloedd sy’n ffurfio esgyrn ac yn lleihau faint o galsiwm creu esgyrn y gellir ei amsugno o’r hyn rydych chi’n ei fwyta. Mae ysmygu hefyd yn lleihau faint o ocsigen sydd ar gael i’ch cyhyrau yn ystod gweithgaredd.

Mae’r holl ffactorau hyn yn cyfuno i arwain at y risgiau canlynol

  • Mwy o berygl o ddatblygu osteoporosis
  • Mwy o risg o ddatblygu anafiadau i gyhyrau eich ysgwydd (y llawes troëdydd)
  • Risg uwch o ddatblygu poen cefn isaf ac arthritis gwynegol
  • Risg uwch o anafiadau gorddefnydd fel tendonitis
  • Risg uwch o dorri esgyrn neu straenio cyhyrau a thendonau

Os hoffech gael copi printiedig o’r wybodaeth uchod, defnyddiwch y ddolen hon

Ceisiwch Help

Os ydych chi’n ysmygu ac yr hoffech gael cymorth i roi’r gorau iddi, mae Gwasanaethau Helpa Fi i Stopio ar gael am ddim drwy ffonio 0800 085 2219 neu ymweld â www.helpafiistopio.cymru. Cymorth gan y GIG i roi’r gorau i ysmygu.

Gall unigolion hunangyfeirio i’r gwasanaeth, sy’n cynnwys cymorth un-i-un dros y ffôn, neu ymweld â fferyllfa gymunedol leol i gael cymorth.

Gwybodaeth am Fêpio

Bu cynnydd sylweddol yn nifer y bobl sy’n defnyddio e-sigaréts.  Mae’n hawdd cael gafael arnyn nhw’n aml ac maent yn cael eu gwneud yn ddeniadol oherwydd y blasau sydd ar gael, a’r gost isel.

Mae pobl yn defnyddio e-sigaréts fel ffordd o roi’r gorau i ysmygu.  Er bod ymchwil yn dangos bod yr e-sigaréts hyn yn fwy diogel na sigaréts a phibellau ‘arferol’ nad ydynt heb risgiau, yn enwedig gan, yn anffodus, nad yw llawer o’r cynhyrchion hyn yn bodloni Safonau Prydeinig ac nad ydynt wedi’u rheoleiddio.  Mae hyn yn golygu y gallant gynnwys cynhyrchion niweidiol yn yr e-sigarét ei hun ac yn yr e-hylif.  Mae yna hefyd effaith negyddol ar yr amgylchedd oherwydd y defnydd o blastigau a lithiwm yn y batri.

Dylai pobl ddefnyddio e-sigaréts ddim ond i’w helpu i roi’r gorau i ysmygu neu eu hatal rhag dychwelyd i ddefnyddio cynhyrchion tybaco fel rhan o’r cynllun rhoi’r gorau i ysmygu.

Rhagor o wybodaeth a chyngor ar fêpio:

Cancer Research UK

Sefydliad Prydeinig y Galon

Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru

Gwybodaeth
Menu