Mae rheoli pwysau yn cyfeirio at y broses o ystyried eich pwysau ochr yn ochr â’ch iechyd a’ch lles a gall olygu anelu at gynnal pwysau neu golli pwysau.

Rydych yn fwy tebygol o sicrhau pwysau iachach drwy osgoi deiet cyfyngol a dilyn patrwm o brydau amrywiol, cytbwys a rheolaidd, gyda gweithgarwch rheolaidd yr ydych yn ei fwynhau.

Darganfyddwch a ydych chi o bwysau iach trwy ddefnyddio  Cyfrifiannell BMI y GIG.

I’ch helpu i wirio a ydych yn colli gormod o bwysau ac mewn perygl o ddiffyg maeth, mae BAPEN wedi datblygu offeryn sgrinio syml y gallwch ei ddefnyddio ynghyd â chyngor i’w ddilyn os ydych mewn perygl o ddiffyg maeth.

Os hoffech gael copi printiedig o’r wybodaeth uchod, defnyddiwch y ddolen hon

Hoffech chi golli pwysau mewn ffordd iach a chadw’ch pwysau newydd am byth?

Dyma rai awgrymiadau i gychwyn arni ynghyd ag amrywiaeth o wybodaeth ac offer a allai fod o gymorth.

  • Bwyta’n araf – mae’n bosibl eich bod wedi clywed ei bod hi’n cymryd tua 20 munud i ddechrau teimlo’n llawn.  Gall caniatáu amser i’ch corff deimlo’n llawn olygu eich bod yn bwyta llai yn ystod amser bwyd.
  • Ceisiwch fwyta bob 3-4 awr – Gall cael prydau a byrbrydau cytbwys rheolaidd helpu i atal chwant.
  • Ceisiwch ddefnyddio plât a phowlen lai – Mae llestri wedi cynyddu’n raddol mewn maint dros amser.  Gall dewis platiau a phowlenni llai eich helpu i leihau eich dognau.
  • Osgowch siopa ar stumog wag – Pan fyddwn ni’n teimlo’n ‘or-llwglyd’, yn aml mae gennym chwant bwydydd sy’n uchel mewn brasterau a siwgrau.  Yn aml, gall siopa ar fola llawn helpu pobl i gadw at eu rhestr siopa.
  • Ceisiwch beidio â bwyta wrth fynd – Os ydyn ni’n bwyta wrth wneud pethau eraill, dyw ein corff ni ddim yn cofrestru’r ffaith ein bod ni wedi bwyta.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod wedi’ch hydradu – Mae’n gyffredin iawn teimlo’n llwglyd pan fyddwch, mewn gwirionedd, yn sychedig.  Gall yfed drwy’r dydd atal chwant bwyd pan nad ydyn ni’n llwglyd.
  • Cadwch ddyddiadur bwyd – Mae’n normal bwyta heb sylweddoli eich bod chi’n gwneud hynny, ac mae’n normal bwyta am resymau heblaw bod yn llwglyd.  Gall cadw dyddiadur manwl o’r hyn rydych chi’n ei fwyta ac unrhyw deimladau ac emosiynau yr oeddech yn eu teimlo eich helpu i ddysgu am eich arferion bwyta eich hun.
  • Ceisiwch lenwi hanner eich plât â llysiau neu salad – Mae llysiau’n isel mewn calorïau ac yn uchel mewn ffibr i’ch helpu i’ch atal rhag teimlo’n llwglyd.
Gwybodaeth
Menu