Mae NERS yn gynllun sy’n cael ei ariannu a’i reoli’n ganolog gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae’r cynllun hwn yn gweithredu ar draws yr holl awdurdodau lleol ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Mae’r Cynllun yn ymyriad iechyd ar sail tystiolaeth sy’n ymgorffori gweithgarwch corfforol a newid ymddygiadol. Mae’n cefnogi cleientiaid i wneud a chynnal dewisiadau iachach o ran eu ffordd o fyw a fydd yn gwella eu hiechyd a’u lles.
I gael mynediad i’r gwasanaeth bydd angen i chi gael eich atgyfeirio gan Weithiwr Iechyd Proffesiynol. Mae’r cynllun yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau campfa a dosbarthiadau i bobl ddewis ohonynt ac mae wedi’i gynllunio i gynnig cyfleoedd ymarfer corff sy’n hwyl, yn werth chweil ac y gellir eu hymgorffori i mewn i fywyd bob dydd.
Ar ôl cael eich atgyfeirio, gallwch gael mynediad i’r gwasanaeth am 16 neu 32 wythnos, yn dibynnu ar y rheswm dros eich atgyfeirio a’ch cyflwr.

ENGLISH







