Edrychwch ar ôl eich hun,
teimlwch yn well a symudwch yn well
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi datblygu’r wefan hon i helpu cymuned BIPAB i ofalu am eu hesgyrn, eu cymalau a’u cyhyrau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi datblygu’r wefan hon i helpu cymuned BIPAB i ofalu am eu hesgyrn, eu cymalau a’u cyhyrau.
Mae aelodau’r tîm wedi cynllunio dull tri cham i’ch helpu i ddeall eich opsiynau a’ch annog i feddwl am yr holl bethau a allai fod yn effeithio ar eich problem.
Bydd yr adran gyntaf yn eich helpu i egluro beth allai fod yn achosi eich poen asgwrn, cyhyr neu gymal a pha dimau a allai eich helpu os bydd angen asesiad arnoch yn gyflym.
Mae aelodau’r tîm wedi cynllunio’r dull tri cham hwn i’ch helpu i ddeall eich opsiynau a’ch annog i feddwl am yr holl bethau a allai fod yn effeithio ar eich problem. Gweithiwch drwy’r rhain i’ch helpu i wneud y dewis mwyaf priodol yn seiliedig ar yr hyn sy’n bwysig i chi.
Bydd yr adran hon yn rhoi gwybodaeth i chi i’ch cefnogi i helpu eich hun.
Yn aml, caiff problemau gydag esgyrn, cymalau, nerfau a chyhyrau eu grwpio gyda’i gilydd a’u galw’n gyflyrau cyhyrysgerbydol. Yn aml, mae ‘cyhyrysgerbydol’ yn cael ei fyrhau i CYs yn Gymraeg neu MSK yn Saesneg.
Iechyd cyhyrysgerbydol yw eich iechyd. Mae pobl sy’n fwy actif ac sydd â ffyrdd iach o fyw yn llai tebygol o ddioddef gyda phroblemau cyhyrysgerbydol hirdymor.
Mae gwneud dewisiadau iach cadarnhaol yn eich ffordd o fyw nid yn unig yn helpu i’ch cadw’n feddyliol ac yn gorfforol iach ond hefyd yn helpu i atal a gwella cyflyrau cyhyrysgerbydol.
Nid yw’r rhan fwyaf o gyflyrau cyhyrysgerbydol yn ddifrifol a gellir eu rheoli gyda strategaethau syml a ddisgrifir ar y wefan hon. Gallwch eu dilyn heb fod angen unrhyw gymorth pellach.
Gallwch hefyd ddod o hyd i wybodaeth isod sy’n fwy perthnasol i rannau penodol o’r corff.
Yn yr adran hon cewch gyngor a gwybodaeth am ardaloedd penodol o’ch corff a gwybodaeth am ymarferion a chyngor sylfaenol i’ch helpu i wella. Ceir gwybodaeth hefyd am sut i geisio cymorth pellach gan ein gwasanaethau os oes angen.
HUNANREOLI
Os bydd eich poen yn parhau ar ôl gwneud yr hunanofal a’r ymarferion, cysylltwch â’r GIG.