Mae llawer o gyngor deiet a maeth yn y cyfryngau. Yn anffodus, nid yw’r cyfan yn seiliedig ar y dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf.
Maeth yw’r astudiaeth o faetholion mewn bwyd a’r ddealltwriaeth o sut mae’r corff yn eu defnyddio. Maetholion yw’r sylweddau mewn bwyd sy’n hanfodol i fywyd, iechyd a gwellhad.
Deieteg yw’r wyddoniaeth o sut mae maeth yn effeithio ar ein hiechyd.
Dietegwyr yw’r unig weithwyr iechyd proffesiynol cymwys sy’n asesu, diagnosio a thrin problemau deiet a maeth.
Mae astudiaethau gwyddonol wedi dangos sut y gall newid i’n deiet helpu i atal neu reoli amrywiaeth o broblemau iechyd, gan gynnwys gordewdra, diabetes a chlefyd y galon.
I ddysgu mwy am wasanaethau Deietegydd, a’r gwasanaeth deieteg ar draws BIPAB, defnyddiwch y dolenni canlynol:
Deieteg Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (nhs.wales) a https://abuhb.nhs.wales/hospitals/a-z-of-services/weight-management-service/
Taflenni Ffeithiau Bwyd Cymdeithas Ddeieteg Prydain (CDdP):
Taflenni Ffeithiau Bwyd Cymdeithas Ddeieteg Prydain (CDdP) (bda.uk.com)
Mae Taflenni Ffeithiau Bwyd CDdP wedi’u hysgrifennu gan Ddeietegwyr i helpu pobl i ddysgu’r ffyrdd gorau o fwyta ac yfed er mwyn cadw’r corff yn ffit ac yn iach. Mae’r adnoddau hyn yn rhad ac am ddim i’w lawrlwytho. Mae’r taflenni hyn er gwybodaeth yn unig; nid ydynt yn cymryd lle diagnosis dietegol neu feddygol na chyngor dietegol a roddir gan Ddeietegydd.
Rhestrir y Taflenni Ffeithiau o dan adrannau sy’n cynnwys; oedolion, oedolion hŷn, y glasoed ac adran babanod a beichiogrwydd. Bydd y wybodaeth yn amrywio ar gyfer pob ystod oedran/adran felly sicrhewch eich bod wedi dewis y daflen gywir.
have selected the right sheet.
ENGLISH







