Os oes gennych broblem gyda’ch esgyrn, eich cyhyrau neu’ch cymalau, efallai y cewch eich atgyfeirio at wasanaeth ysbyty arbenigol i’w hasesu a’i thrin. Gall mwy nag un tîm gefnogi rhai pobl. Yma gallwch gael gwybod am y gwasanaethau a’r gwahanol broffesiynau y gallech ddod ar eu traws.
Meddwl am ddewisiadau
Ein Iechyd – Ein Gwybodaeth – Mae’r cwrs gwe byr hwn wedi’i gynllunio i helpu pobl sy’n meddwl am ddewisiadau ym maes gofal iechyd. Mae hynny’n cynnwys cleifion, aelodau o’r teulu, gofalwyr, myfyrwyr gofal iechyd, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, a llunwyr polisi.
ENGLISH

















