Rydym yn gwerthfawrogi eich sylwadau – p’un a oes gennych ganmoliaeth, awgrym neu bryder, hoffem glywed gennych.
Gobeithiwn y gallwch gyflwyno unrhyw bryder (cwyn) sydd gennych i’r staff dan sylw neu eu Rheolwr. Fodd bynnag, gallwch hefyd godi unrhyw bryderon drwy:
Ffonio’r Tîm Gwrando ar Bobl ar: 01633 499040
Bydd Tîm Gwrando ar Bobl yn adolygu manylion eich pryder ac yn eu rhannu gyda’r Adran berthnasol. Byddwch yn derbyn galwad yn ôl o fewn dau ddiwrnod gwaith i drafod eich pryderon mewn fwy o fanylder ac os yn bosibl, datrys y pryder ar y cam hwn.
Cysylltu â ni
E-bostiwch eich pryderon i: ABUHB.ListeningToPeople-Complaints@wales.nhs.uk
Os byddai’n well gennych, mae Ffurflen Codi Pryder ar gael y gallwch ei chwblhau a’i e-bostio atom.
Neu ysgrifennwch lythyr at:
Prif Weithredwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Ysbyty Sant Cadog
Heol-y-Porthdy
Caerllion
Casnewydd NP18 3XQ
ENGLISH







