Mae poen yn deimlad annymunol ac yn brofiad emosiynol sy’n gysylltiedig â neu sy’n cynrychioli bygythiad canfyddedig neu anaf gwirioneddol.
Mae gweithwyr iechyd proffesiynol yn defnyddio termau gwahanol ar gyfer gwahanol fathau o boen.
Mae’r enwau hyn yn aml yn ymwneud â pha mor hir y mae pobl wedi bod yn profi poen (acíwt neu barhaus) a/neu y strwythurau a allai fod yn gysylltiedig â’r teimlad o boen (e.e. niwropathig, llidiol, nosiseptaidd).
Mwy o wybodaeth am boen
Mae pobl yn profi poen pan fydd signal yn teithio drwy ffibr nerfol arbenigol i’w hymennydd. Yn aml mae achos poen yn amlwg – coes wedi torri neu glais. Ond mae adegau pan nad oes modd gweld ffynhonnell y boen, fel poen cymalau. Weithiau ni allwch weld achos poen rhywun.
I ddechrau, gallai poen gael ei achosi gan ddifrod meinwe a gall fod yn rhan hanfodol o system amddiffynnol eich corff (fel sicrhau nad ydych yn cerdded ar goes sydd wedi torri). Fodd bynnag, gwyddom hefyd y gall pobl deimlo poen heb anaf (fel mewn poen rhithaelod) ond hefyd gael anaf heb boen.
Mewn rhai achosion, mae’r boen rydym yn ei brofi a sut mae’n gwneud i ni deimlo ac ymddwyn yn mynd ymlaen yn hirach nag sydd angen. Gall hyn oedi a niweidio pa mor dda a chyflym rydym yn gwella ac yn dychwelyd i’r gweithgareddau rydym eisiau ac angen eu gwneud.
Ar gyfer llawer o symptomau cyhyr, cymal ac asgwrn sy’n dilyn ymddangosiad problem neu anaf newydd neu’r ddau, gallant wella ar eu pen eu hunain o fewn ychydig ddyddiau i 6 wythnos. Mae pobl a sefyllfaoedd eraill yn profi poen sy’n para’n hirach neu’n barhaus.
Felly mae’r profiad o boen yn real ond mae’n gymysgedd cymhleth o
• beth sy’n digwydd yn y corff,
• beth sy’n digwydd yn yr ymennydd,
• ble mae’r profiad o boen yn digwydd a
• beth yw ein profiad o boen yn y gorffennol
Mae Cam 2 yn rhoi rhagor o wybodaeth am y ffactorau a all effeithio ar broblemau cyhyr, cymal ac asgwrn.
Dolenni a gwybodaeth ychwanegol
I gael rhagor o wybodaeth, mae’r cyflwyniadau canlynol ar gael:
Understanding Pain What to do about it in less than five minutes:
TEDxAdelainde – Lorimer Moseley – Why Things Hurt
The mysterious science of pain – Joshua W Pate
ENGLISH






