Beth gallaf ei wneud i helpu fy hun?

Ar ôl gweithio drwy gamau un a dau, bydd gennych well dealltwriaeth o’r holl bethau a all gael effaith ar eich esgyrn, eich cyhyrau a’ch cymalau. Dylech fod yn barod i ystyried yr hyn y gallwch ei wneud i helpu eich hun. Mae’r cam nesaf hwn yn rhoi cyngor pellach ar hunan-reoli.

Hunan-reoli

Mae cyflwyno hunan-reolaeth yn bwysig er mwyn gwella eich siawns o adferiad llwyddiannus a dychwelyd i’ch bywyd normal. Edrychwch ar yr awgrymiadau a strategaethau i weld faint allwch chi ei wneud drosoch eich hun:

Rheoli Poen

Gweithgarwch ac ymarfer corff

Iechyd Meddwl a Ffordd o Fyw

Cael gwybodaeth ychwanegol

Lle mae’n brifo

Yn yr adran hon fe gewch gyngor a gwybodaeth am rannau penodol o’ch corff a gwybodaeth am ymarferion sylfaenol a chyngor i’ch helpu eich hun i wella.

Mae yna hefyd wybodaeth ar sut i gyfeirio at wasanaethau os oes angen.

Gobeithiwn fod y wybodaeth hon wedi bod yn fuddiol.

Menu