Mae cyflwyno, dychwelyd i neu barhau i ymarfer corff rheolaidd yn rhan bwysig o’ch adferiad a thu hwnt.
Gall bod yn gorfforol actif drwy gydol eich adferiad ac ar ôl gwella:
- atal y broblem rhag digwydd eto
- cynnal eich lefelau ffitrwydd presennol – hyd yn oed os oes rhaid i chi addasu’r hyn a wnewch fel arfer, mae unrhyw weithgaredd yn well na dim
- cadw’ch cyhyrau a’ch cymalau eraill yn gryf ac yn hyblyg
- eich helpu i anelu at bwysau corff iach Cyfrifiannell BMI
Yn dilyn ymddangosiad symptomau newydd, anaf neu’r ddau, efallai y bydd angen lleihau neu addasu eich gweithgareddau dyddiol i ddechrau. I rai, gall hyn olygu gorffwys mwy a lleihau rhai symudiadau neu dasgau sy’n anodd ac yn boenus yn ystod y dyddiau cyntaf, megis ymestyn gydag ysgwydd boenus neu blygu ymlaen gyda chefn isaf poenus. I eraill, gall hyn olygu addasu eu gweithgareddau, megis lleihau faint o eistedd, sefyll, cerdded, tasgau o gwmpas y cartref neu hobïau y maent yn eu gwneud yn ystod y dyddiau a’r wythnosau cyntaf.
Ni chynghorir gorffwys yn y gwely’n barhaus ar gyfer y rhan fwyaf o broblemau cyhyr, cymal ac asgwrn gan ei fod yn oedi gwellhad. Fodd bynnag, efallai y bydd angen i chi orffwys mwy yn nyddiau cynnar ymddangosiad symptomau newydd neu anaf. Ar hyn o bryd, eich nod yw perfformio rhai symudiadau ysgafn yn aml yn ystod y dydd, a chynyddu’r rhain wrth i chi deimlo’n fwy abl.
Ym mhob sefyllfa, mae’n bwysig dychwelyd yn raddol i symudiadau a gweithgareddau arferol cyn gynted â phosibl. Wrth i’r symptomau leihau a’ch hyder gynyddu, dechreuwch ddychwelyd i normal. Gall hyn fod yn boenus i ddechrau o hyd, ond anaml y bydd hyn yn gwneud unrhyw niwed neu anaf pellach i chi. Dyma sut mae gwella’n dda.
I’r rhai sy’n newydd i ymarfer corff, dechreuwch gyda thargedau bach cyraeddadwy a’u cynyddu wrth i chi ddod yn fwy heini a mwy hyderus. Nid oes un ymarfer corff yn well nag un arall. Mae rhai y mae’n well gennym neu rai sy’n gweddu’n well i ni. Mae llawer o bosibiliadau i fodloni eich anghenion gweithgarwch ac ymarfer corff.
Os hoffech gael copi printiedig o’r wybodaeth uchod, defnyddiwch y ddolen hon
I gael rhagor o wybodaeth am ymarfer corff:
Mae gan Wefan y GIG rai ymarferion ysgafn a hawdd eu dilyn ac amrywiaeth o fideos ymarfer corff i bobl o bob lefel o ffitrwydd a gallu yn y stiwdio ffitrwydd
Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru amrywiaeth o adnoddau gyda chyngor ar ffordd o fyw ac awgrymiadau da ar gyfer dechrau dod yn fwy actif: Cadw’n iach yn gorfforol
Mae Chwaraeon Anabledd Cymru yn cynnig llawer o gyfleoedd chwaraeon cynhwysol yn eich ardal leol. Gallwch chwilio am gyfleoedd chwaraeon yn ôl anabledd, camp neu awdurdod lleol
Mae gan Versus Arthritis awgrymiadau da a rhaglenni ymarfer corff blaengar y gallwch eu dilyn o gysur eich cartref
Dewis Cymru yw’r lle i fynd os oes angen gwybodaeth neu gyngor arnoch am eich lles – neu os ydych chi eisiau gwybod sut y gallwch helpu rhywun arall. Gallwch chwilio yn ôl ardal leol a’r hyn sy’n bwysig i chi
Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru lawer o wybodaeth am ddiwrnodau allan a phethau i’w gwneud yn eich cefn gwlad lleol neu ymhellach i ffwrdd ledled Cymru
Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn cynnig gwybodaeth ‘beth sydd ‘mlaen’ yn ogystal â gweithgareddau i’w gwneud ar draws y parc cenedlaethol
Rhwydweithiau Lles Integredig yng Ngwent
Mae “We Are Undefeatable” yn fudiad cyfunol sy’n cefnogi pobl ag ystod o gyflyrau iechyd hirdymor. Mae’r ymgyrch yn cael ei datblygu gan 15 o elusennau iechyd a gofal cymdeithasol blaenllaw. Eu pwrpas yw cefnogi ac annog dod o hyd i ffyrdd o fod yn egnïol mewn ffordd sy’n gweithio i chi a’ch cyflwr iechyd.
Gwasanaeth Rheoli Symptomau
Canllawiau Presennol y DU
Mae yna ganllawiau i’ch helpu i ddeall faint o weithgarwch corfforol y dylem anelu ato i gael y canlyniad gorau.
Mae canllawiau ychydig yn wahanol ar gyfer
Plentyndod cynnar
Pobl ifanc
Plant Anabl a Phobl Ifanc Anabl
Oedolion
Oedolion anabl
Pobl feichiog
Ar ôl genedigaeth
Canllawiau gweithgaredd corfforol i blant (dan 5 oed) – GIG
Canllawiau gweithgaredd corfforol i blant a phobl ifanc – GIG
Canllawiau gweithgaredd corfforol i oedolion hŷn – GIG
Ymarfer Corff – GIG