Pe bai ymarfer corff neu weithgarwch yn bilsen, byddai pawb yn ei gymryd!
Ceir tystiolaeth fod ymarfer corff yn cael effaith gadarnhaol ar nifer o wahanol feysydd.
Gall leihau eich risg o glefyd y galon, strôc, diabetes math 2, canser, cwympiadau a thorri esgyrn. Mae ymarfer corff hefyd yn cael effaith gadarnhaol ar eich iechyd meddwl yn y byrdymor a’r hirdymor gan ei fod yn lleihau’r risg o straen, iselder a datblygu clefyd Alzheimer.
Oherwydd hyn, mae ymarfer corff yn cynyddu’r cyfnod cyfartalog o amser y gallai person ddisgwyl byw (eich disgwyliad oes).
Mae ymarfer corff yn gwella eich hunan-barch, eich hwyliau, eich cwsg a’ch bywyd rhywiol yn ogystal â’ch cryfder, dwysedd eich esgyrn a’ch cydsymudiad.
Mae gwneud unrhyw beth yn well na dim, ond mae canllawiau i’ch helpu i ddeall faint y dylech anelu at ei wneud am y canlyniadau gorau.
Os hoffech gael copi printiedig o’r wybodaeth uchod, defnyddiwch y ddolen hon
Canllawiau
Mae canllawiau i’ch helpu i ddeall faint o weithgarwch corfforol y dylem anelu ato i gael y canlyniad gorau.
Mae canllawiau ychydig yn wahanol ar gyfer:
Plant
Canllawiau gweithgarwch corfforol i blant (o dan 5 oed) – GIG
Plentyndod cynnar
Canllawiau gweithgarwch corfforol i blant a phobl ifanc – GIG
Pobl ifanc
Oedolion
Canllawiau gweithgarwch corfforol ar gyfer oedolion hŷn – GIG
Oedolion
Ymarfer corff – GIG
Oedolion anabl
Dylid anelu am o leiaf 150 munud o weithgarwch o ddwysedd cymedrol bob wythnos. Defnyddiwch y prawf siarad i weld a ydych chi’n gweithio ar lefel gymedrol – rydych chi’n gallu siarad, ond nid canu! Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd siarad heb oedi, rydych chi’n gweithio ar ddwyster egnïol. Gwnewch weithgareddau cryfhau’r cyhyrau a chydbwyso ddwywaith yr wythnos.
Mae Chwaraeon Anabledd Cymru yn cynnig llawer o gyfleoedd chwaraeon cynhwysol yn eich ardal leol. Gallwch chwilio am gyfleoedd chwaraeon yn ôl anabledd, camp neu awdurdod lleol.
Pobl feichiog
Dylid anelu am o leiaf 150 munud o weithgarwch o ddwysedd cymedrol bob wythnos. Gwnewch weithgareddau cryfhau’r cyhyrau ddwywaith yr wythnos. Os nad ydych chi’n actif, dechreuwch yn raddol ond os ydych chi eisoes yn actif, daliwch ati. Nid oes unrhyw dystiolaeth o niwed, gwrandwch ar eich corff ac addaswch – ond peidiwch â bwmpio’r bwmp!
Ar ôl genedigaeth
Dylid anelu am o leiaf 150 munud o weithgarwch o ddwysedd cymedrol bob wythnos. Adeiladwch yn ôl i weithgareddau cryfhau’r cyhyrau ddwywaith yr wythnos ond dechreuwch ymarferion llawr y pelfis cyn gynted ag y gallwch chi a gwnewch nhw bob dydd. Os nad ydych chi’n actif, dechreuwch yn raddol ond os oeddech chi’n actif cyn yr enedigaeth, ailgychwynnwch yn raddol. Nid oes unrhyw dystiolaeth o ymarfer corff yn achosi niwed ar ôl genedigaeth – gwrandwch ar eich corff ac addaswch.