Gall y rhan fwyaf o gleifion â phoen parhaus gael eu rheoli gan eu meddyg teulu. Mae’r gwasanaeth poen yn wasanaeth ysbyty lle caiff cleifion eu hatgyfeirio os yw hi’n dod yn anodd rheoli’r boen. Mae tîm amlddisgyblaethol yn cefnogi cleifion sy’n cael eu hatgyfeirio at y gwasanaeth.
Mae’r tîm yn cynnwys meddygon, nyrsys a seicolegydd. Mae’r tîm ffisiotherapi sy’n arbenigo mewn problemau esgyrn, cyhyrau a chymalau ac iechyd y pelfis hefyd yn gweithio’n agos iawn gyda’r gwasanaeth.
Mae dwy swyddogaeth i’r gwasanaeth:
- Cefnogi pobl mewn poen acíwt i leihau eu poen a’u gofid – gwasanaeth cleifion mewnol yw hwn sy’n cefnogi cleifion sydd yn yr ysbyty â phoen sydyn oherwydd llawdriniaeth, trawma neu gyflwr meddygol arall
- Cefnogi pobl sydd wedi datblygu poen cronig neu barhaus – mae llawer o’r gwaith rheoli’n ymwneud â hunanreoli felly mae’r tîm yn darparu asesiad holistig, gyda’r claf wrth wraidd y dysgu i reoli eu poen. Anaml y gellir cael gwared ar yr holl boen
Felly, nod y gwasanaeth yw annog pobl i hunanreoli eu cyflwr, lleihau’r ddibyniaeth ar feddygaeth poen (a allai fod yn helpu neu beidio, ond sy’n achosi sgil-effeithiau sylweddol) a lleihau’r angen i bobl chwilio am gymorth gan eu meddyg teulu neu ysbyty i reoli eu cyflwr poenus.
ENGLISH







