Beth yw cyflwr cyhyrysgerbydol a sut gall y wefan hon helpu?

and older man and lady jogging along a path in the autumn

Ydych chi’n hyderus bod y wybodaeth a’r arweiniad ar y wefan hon yn addas i chi?

Mae’r cam cyntaf hwn i’ch helpu i weld a yw’r wefan hon yn iawn i chi. Edrychwch yn gyntaf ar y cwestiynau isod i’ch helpu i wirio nad yw eich problem yn argyfwng meddygol.

A yw’n argyfwng?

Ar gyfer argyfyngau, megis:

Arwyddion o drawiad ar y galon

Poen fel band tynn iawn, pwysau trwm neu wasgfa yng nghanol eich brest

Arwyddion o strôc

Wyneb yn gollwng ar un ochr, methu dal y ddwy fraich i fyny, anhawster siarad

Anhawster anadlu difrifol

Methu cael geiriau allan, tagu neu ebychu

Anafiadau difrifol neu waedu trwm

Archollion dwfn ar ôl damwain ddifrifol, gwaedu trwm nad yw’n stopio

Ffit

Mae rhywun yn ysgwyd ne’n ysgytio oherwydd ffit, neu mae’n anymwybodol (does dim modd ei ddeffro)

Chwyddo’n sydyn, cyflym

Y llygaid, y gwefusau y geg, y gwddf, neu’r tafod yn chwyddo’n sydyn ac yn gyflym

Ffoniwch 999 i gael gafael ar gymorth meddygol brys. Gall pobl fyddar ddefnyddio 18000 i gysylltu â 999 gan ddefnyddio trosglwyddo testun

Cwestiynau sgrinio

Wrth feddwl am eich opsiynau, ystyriwch y pum cwestiwn sgrinio canlynol. Os byddwch yn ateb IE i unrhyw un o’r cwestiynau sgrinio cewch eich cyfeirio i ofyn am farn feddygol neu wasanaeth arall yn hytrach na dilyn y cyngor ar y wefan hon yn gyntaf.

Beth yw cyflwr Cyhyrysgerbydol (CYs)?

Cyfeirir at broblemau gyda rhannau symudol y corff gan gynnwys esgyrn, cymalau, nerfau a chyhyrau fel cyflyrau cyhyrysgerbydol (CYs).

Yn aml fe’u teimlir ar ffurf poen, anhawster symud a theimladau annymunol yn eich corff. Gallant effeithio ar eich gweithgareddau bob dydd, eich gwaith a’ch diddordebau, ac effeithio ar eich iechyd a’ch lles.

Mae enghreifftiau’n cynnwys poen cefn isel, seiatica, ysgwydd wedi’i rewi, poen pen-glin, osteoarthritis, neu straenio cymal. Ar gyfer llawer o’r problemau hyn, mae cyngor hunan-reoli syml yn helpu a dyna’r cyfan sydd ei angen.

older lady and gentleman sitting in a gym raising dumbells
man in blue denim shirt leaning forward clasping his lower back

Sut gall y wefan hon helpu?

Nod y wefan hon yw rhoi gwybodaeth a chyngor ar:

  • sut y gallwch reoli mân anafiadau eich hun
  • byw gyda phroblem hirdymor gyda’ch esgyrn, eich cyhyrau neu’ch cymalau
  • deall beth allai fod yn cyfrannu at eich poen neu’ch problem a’r hyn y gallech ei wneud am y peth

Nawr symudwch ymlaen at Gam 2

Menu