ESCAPE-Pain ar gyfer y Cefn – wedi’i gynllunio i fod o fudd i bobl â phoen cefn parhaus gan roi’r sgiliau a’r technegau i chi reoli eich poen cefn eich hun.
Beth yw Rhaglen ESCAPE-Pain ar gyfer y cefn?
- Mae’n rhaglen 6 wythnos o hyd ac yn cael ei chynnal mewn canolfan hamdden
- Bydd unigolion yn mynychu dau ddosbarth yr wythnos (12 dosbarth i gyd)
- Mae pob dosbarth yn cynnwys:
- 20 munud o drafodaeth grŵp ar bwnc penodol yn ymwneud â phoen cefn
- 30-40 munud o ymarferion amrywiol wedi’u cynllunio i wella’ch symudedd a’ch gweithrediad

Lleoliad
Canolfan Hamdden Glyn Ebwy
Dydd Mawrth a dydd Iau – 11:30 – 12:30
Pentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd – Canolfan Tenis a Nofio Ranbarthol
Dydd Mercher a dydd Gwener – 12:45 – 13:45
Am Fwy o Wybodaeth
Cynhelir y dosbarthiadau ddydd Mawrth a dydd Iau yng Nghanolfan Chwaraeon Glyn Ebwy. Mae’n rhaid i’r holl gyfranogwyr gael eu cynnwys mewn grŵp.
I ymholi, ffoniwch Ganolfan Therapi MSK ar 0300 3732539 a gofynnwch am ‘ESCAPE’ neu e-bost ABB.MBGEscapepain@wales.nhs.uk.
Beth ddylwn i ei wneud ar ôl i mi gwblhau rhaglen ESCAPE-Pain?
Ar ôl cwblhau rhaglen ESCAPE-Pain, bydd y tîm yn eich arwain ac yn cynnig gwybodaeth am ffyrdd o gadw momentwm mynychu’r rhaglen i fynd. Mae llwybrau posibl yn cynnwys:
– Hwb Da yn y dŵr neu ar dir
– Aelodaeth campfa
– ESCAPEE (grŵp ymarfer corff ar gyfer y rhai sydd wedi dilyn y rhaglen ESCAPE-Pain)
– Cynllun NERS
Cysylltiadau Defnyddiol
Hunanofal – Gwent yn Symud yn Well
Beth yw Poen? – Gwent yn Symud yn Well
Poen Parhaus – Gwent yn Symud yn Well
Fideos Ymarfer Corff Stiwdio Ffitrwydd – GIG Cymru
ENGLISH







