Mae’r Ganolfan Therapi CYs yn adnodd i gefnogi pobl sydd â phryderon esgyrn, cyhyrau a chymalau. Mae’r holl geisiadau am gymorth gan bobl sy’n byw ym Mwrdd Iechyd Ysbyty Prifysgol Aneurin Bevan ac atgyfeiriadau esgyrn, cyhyrau a chymalau gan feddygon teulu, nyrsys practis, fferyllwyr i wasanaethau therapi yn cael eu hanfon at y tîm hwn.
Y tîm sy’n gweithio fel rhan o’r Ganolfan Therapi CYs yw podiatryddion, ffisiotherapyddion, deietegwyr, gweithwyr proffesiynol ymarfer corff a gweinyddwyr. Mae’r tîm wedi’i leoli yng Nghwmbrân, ac yn cysylltu â phobl dros y ffôn neu’n defnyddio galwadau fideo ac nid ydynt yn cwrdd â phobl wyneb yn wyneb.
Gall pobl gwblhau cais am gymorth o’r wefan. Os na allwch lenwi’r ffurflen hon yn electronig ac os hoffech gael cymorth, cysylltwch â 0300 3732539 (dydd Llun i ddydd Gwener) a bydd un o’n tîm yn eich helpu.
Bydd y tîm o weinyddwyr a therapyddion sy’n gweithio yn y ‘ganolfan CYs’ yn darllen yr wybodaeth rydych wedi’i darparu amdanoch eich hun. Os ydych chi’n cytuno, bydd y clinigwyr hefyd yn edrych ar eich cofnodion iechyd electronig a’ch ymchwiliadau blaenorol i gael darlun llawn o’ch pryder a’ch anghenion.
Weithiau mae angen i’r tîm gweinyddol neu’r clinigwyr gysylltu â chi i ofyn rhagor o gwestiynau i chi. Bydd hyn er mwyn eu helpu i ddeall y ffordd orau o’ch cefnogi.
Mae nifer o wahanol ffyrdd y gallwch gael eich cefnogi i reoli eich problem cyhyrau, cymalau neu esgyrn. Isod mae rhai enghreifftiau o’r mathau o gymorth y gellir ei gynnig:
- Darparu’r wybodaeth a’r cyngor iawn fel y gallwch reoli eich pryder eich hun yn hyderus
- Darparu gwybodaeth am grwpiau cymorth cymunedol y gallech gysylltu â nhw
- Darparu gwybodaeth am weithgareddau/grwpiau ymarfer corff yn y gymuned yr hoffech eu mynychu e.e. dosbarthiadau ioga neu Good Boost
- Atgyfeiriad at dîm adsefydlu yn y gymuned
- Atgyfeiriad at y gwasanaeth cwympiadau
- Atgyfeiriad at dîm ysbyty (e.e. Rhiwmatoleg, Orthopedeg, Radioleg)
- Cyfeirio at ffisiotherapi, podiatreg, rheoli pwysau neu wasanaethau deietetig
Bydd pawb sydd wedi’u cofrestru gyda’r Ganolfan Therapi CYs yn derbyn holiadur PROM a PREM drwy Promptly i ddeall a sefydlu effaith hirdymor y newid hwn yn gweithio.
ENGLISH








