Mae Gwasanaeth Eiddilwch Gwent yn wasanaeth gofal canolraddol amlddisgyblaethol o fewn yr Adran Gofal Sylfaenol a Gwasanaethau Cymunedol sy’n canolbwyntio ar ddarparu gofal a/neu driniaeth i gleifion gartref neu mor agos i’r cartref â phosibl. Mae’r Gwasanaeth Eiddilwch yn ddarpariaeth ar y cyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a phum Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol Awdurdod Lleol Gwent, sy’n gweithredu’n lleol fel Tîm Adnoddau Cymunedol.
Nod y gwasanaeth yw:
- Lleihau derbyniadau diangen i’r ysbyty drwy ddarparu llwybrau amgen diogel
- Lleihau arosiadau yn yr ysbyty drwy helpu i ryddhau cleifion o’r ysbyty yn gynnar
Beth yw’r Tîm Adnoddau Cymunedol (TAC)?
Mae’r Tîm Adnoddau Cymunedol yn cynnwys Meddygon Ymgynghorol, Meddygon, Nyrsys, Ffisiotherapyddion, Therapyddion Galwedigaethol, Technegwyr Ail-alluogi a Gweithwyr Cymorth a Lles. Mae’r TAC yn rhoi cymorth i oedolion (dros 18 oed) sy’n byw yn ardal Gwent sydd angen cymorth i aros yn annibynnol, yn eu cartref eu hunain, gan osgoi derbyn cleifion i’r ysbyty yn ddiangen.
Yn dibynnu ar ba Fwrdeistref rydych chi’n byw, gall bod y Tîm Adnoddau Cymunedol ddarparu’r gwasanaethau canlynol:
- Meddygol Cyflym
- Nyrsio Cyflym
- Ail-alluogi
- Cwympo
- Gofal Brys yn y Cartref
- Asesiad Gwaith Cymdeithasol
- Cymorth Therapi Galwedigaethol/Ffisiotherapi i bobl yn eu cartrefi eu hunain
Sut mae cael mynediad at y gwasanaeth?
Gall amrywiaeth o weithwyr gofal iechyd proffesiynol gyflwyno atgyfeiriad i’r TAC, a brosesir gan dîm ymroddedig yn yr Un Pwynt Mynediad (UPM). Yr UPM yw’r cysylltiad rhwng gweithwyr meddygol/cymdeithasol proffesiynol a’r Tîm Adnoddau Cymunedol (TAC).
Mae’r UPM yn cofnodi manylion cleifion megis gwybodaeth ddemograffig/cyflwr presennol/rheswm dros atgyfeirio ac yn prosesu’r atgyfeiriad i’r ardal berthnasol fel y gellir trefnu gofal/triniaeth.
Bydd yr UPM yn trosglwyddo’r atgyfeiriwr i’r TAC perthnasol, os oes angen trafodaeth glinigol i bennu’r gofal mwyaf priodol i’r claf.
Gwasanaeth Atal Cwympiadau
Mae’r Gwasanaeth Atal Cwympiadau yn darparu rhaglen asesu ac ymyriadau gydgysylltiedig ar gyfer pobl oedrannus sydd wedi cwympo, sy’n poeni am gwympo neu sydd â phryderon am eu cydbwysedd. Bydd y Nyrs/Therapydd Cwympiadau yn sicrhau bod pobl sy’n cael eu cyfeirio atynt yn cael yr Asesiad Risg Aml-Ffactor mwyaf priodol ac amserol yn eu cartref eu hunain.
Bydd y Tîm Cwympiadau’n adolygu:
- Meddyginiaeth
- Ymataliaeth, maeth, hydradiad, poen
- Cydbwysedd, osgo, esgidiau, trosglwyddiadau a cherdded
- Pwysedd gwaed yn gorwedd/eistedd/sefyll
- Ffactorau risg osteoporosis/hanes o dorri esgyrn
- Golwg, clyw, dryswch, colli cyswllt â’r amgylchedd
- Peryglon amgylcheddol
Mewn rhai achosion, cyfeirir pobl at Glinig Cwympiadau. Clinig arbenigol dan arweiniad meddyg ymgynghorol yw hwn, sy’n cynnwys:
Asesiadau meddygol a diagnosteg
- Adolygiad o’ch meddyginiaeth
- Asesiad Cydbwysedd ac Osgo Uwch
- Atgyfeiriadau arbenigol
I gael gwybod mwy am y gwasanaeth Eiddilwch, darllenwch dudalen Gwasanaethau Cymunedol BIPAB: Eiddilwch – Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (nhs.wales)
ENGLISH







