Mae podiatryddion yn weithwyr proffesiynol cofrestredig sy’n asesu, diagnosio a thrin cyflyrau’r traed a’r coesau is.
Mae podiatryddion yn trin nifer o gyflyrau gan gynnwys cyflyrau sy’n effeithio ar esgyrn, cymalau, meinwe meddal a chyflenwad gwaed. Maent yn gweithio i atal problemau traed, cywiro anffurfiad, cadw pobl yn actif, lleddfu poen a thrin heintiau.
Mae podiatryddion yn defnyddio dull holistig o ofalu. Mae hyn yn golygu y byddant yn siarad â chi am unrhyw broblemau corfforol sydd gennych a’ch lles emosiynol, seicolegol a chymdeithasol.
Mae podiatrydd yn deitl gwarchodedig yn y DU. Mae hyn yn golygu mai dim ond pobl sydd wedi cwblhau hyfforddiant penodol (gradd) a chofrestru gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal sy’n gallu galw eu hunain yn bodiatrydd. Maent yn weithwyr proffesiynol annibynnol. Mae hyn yn golygu bod podiatryddion yn gwneud eu diagnosis clinigol a’u dewisiadau triniaeth briodol eu hunain.
Gwybodaeth a dolenni ychwanegol
I gael gwybod mwy am bodiatreg, ewch i wefan y Coleg Podiatreg Brenhinol
I gael gwybod am reolau podiatryddion ac i wirio bod eich podiatrydd wedi cofrestru, ewch i wefan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (CPIG)
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan – Gwybodaeth Podiatreg ac Orthoteg
ENGLISH







