Mae gwasanaeth rheoli pwysau yn wasanaeth gofal iechyd sy’n cynnwys grŵp o weithwyr cymorth, dietegwyr, nyrsys, seicolegwyr a meddyg.  Nod y gwasanaeth hwn yw helpu pobl i ddeall pam y gallent fod wedi cael trafferth colli pwysau a’u cefnogi i wneud newidiadau hirdymor i’w gweithgarwch a’u deiet.

Mae pobl yn mynd dros eu pwysau neu’n ordew o ganlyniad i gyfres gymhleth o ddylanwadau personol, cymdeithasol ac amgylcheddol.  Fodd bynnag, gall bod dros eich pwysau neu’n ordew ddod â phroblemau corfforol, cymdeithasol ac emosiynol.  Gall olygu bod pobl yn profi stigma a gwahaniaethu.  Gall hefyd arwain at salwch hirdymor y gellir ei atal, disgwyliad oes is a mwy o debygolrwydd o fod angen triniaeth ysbyty o’i gymharu â phobl sydd â phwysau iach.   Gall hyn gael effaith enfawr ar yr unigolyn, yn ogystal â’r bobl o’i gwmpas.

Gwasanaeth Rheoli Pwysau Oedolion – Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwysau Iach Byw’n Iach

Plant – ‘CONNECT’ – Gwasanaeth Rheoli Pwysau Plant a Phobl Ifanc Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Gwybodaeth

Menu