Beth yw pryderon cyhyrau, esgyrn neu gymalau?
Mae pryderon cyhyrau, cymalau ac esgyrn yn gyffredin iawn ac yn effeithio ar 1 o bob 4 oedolyn yng Nghymru. Maent yn cynnwys rhannau symudol eich corff a gallant effeithio ar eich gweithgareddau, eich gwaith a’ch hobïau dyddiol.
Gallant ddeillio o anaf neu ddatblygu’n raddol.
Yn aml fe’u teimlir ar ffurf poen, anhawster symud a theimladau annymunol yn eich corff. Gallant deimlo’n well neu’n waeth gyda symud neu orffwys.
Gallech fod yn dioddef o boen cefn isaf, poen ysgwydd, poen pen-glin, seiatica, fferdod ysgwydd, tendonitis, osteoarthritis, straen neu droad. Ar gyfer llawer o’r pryderon hyn, mae cyngor hunanreoli syml yn helpu a dyna’r cyfan sydd ei angen.
Beth yw ffurflen cais am gymorth a pham mae’n wahanol i hunan-atgyfeiriad?
Efallai y bydd rhai pobl yn gofyn pam mae Ffurflen Cais am Gymorth sy’n cael ei defnyddio ar y system GwentYnSymudYnWell, yn hytrach na Ffurflen Hunan-atgyfeiriad.
Wel, efallai nad y ffordd orau o helpu rhywun yw ei atgyfeirio at dîm iechyd. Mae’r penderfyniad yn seiliedig ar yr hyn y mae pobl yn ei ddweud wrthym am eu cyflwr a sut mae’n effeithio arnynt. Dyna pam ei bod hi’n bwysig eich bod yn rhoi cymaint o wybodaeth ag y gallwch ar y ffurflen ynghylch pryd a ble mae’r broblem asgwrn, cyhyr neu gymal yn effeithio arnoch chi a beth mae hyn yn ei olygu i chi.
Rydym yn gwybod, i rai pobl, nad yw aros i gael eu gweld gan dimau iechyd yn ddefnyddiol, a gall arwain at broblemau pellach gyda’u hesgyrn, cyhyrau neu gymalau. Y ffordd orau o gefnogi rhywun o bosib yw ei gyfeirio at wybodaeth hunangymorth neu grŵp cymunedol. Efallai mai dyna i gyd fydd ei angen, neu gallai fod yn ychwanegol at atgyfeiriad at wasanaeth penodol.
Lle y bo’n briodol, bydd y Ffurflen Cais am Gymorth yn gweithredu fel atgyfeiriad at dîm iechyd neu ofal penodol a bydd y wybodaeth a roddwch yn cael ei throsglwyddo i’r tîm perthnasol i helpu i gynllunio eich asesiad a’ch triniaeth.
Beth sy'n digwydd i'm ffurflen cais am gymorth?
Bydd tîm o weithwyr iechyd proffesiynol sy’n gweithio mewn ‘canolfan’ yn darllen y wybodaeth rydych wedi’i rhoi amdanoch chi’ch hun. Efallai y byddant hefyd yn edrych ar eich cofnodion iechyd a’ch ymchwiliadau iechyd blaenorol i gael syniad llawn o’ch pryderon a’ch anghenion.
Weithiau bydd angen iddynt gysylltu â chi gyda chwestiynau pellach. Bydd hyn i’w helpu i ddeall y ffordd orau o’ch cefnogi.
Mae’r gweithwyr iechyd proffesiynol yn cael eu cefnogi gan dîm gweinyddol i sicrhau bod eich cais am help yn cael ei brosesu’n effeithlon ac y gallwch gael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnoch.
Mae nifer o wahanol ffyrdd y gallwch gael eich cefnogi i reoli eich problem cyhyr, cymal neu asgwrn. Isod mae rhai enghreifftiau o’r mathau o gymorth y gellir eu cynnig pan fyddwch yn gofyn am help:
- Darparu’r wybodaeth a’r cyngor cywir fel y gallwch reoli eich pryder eich hun yn hyderus
- Darparu gwybodaeth am grwpiau cymorth cymunedol y gallech gysylltu â nhw
- Darparu gwybodaeth am grwpiau gweithgareddau/ymarfer corff cymunedol y gallech eu mynychu
- Atgyfeiriad at dîm therapi (e.e. Podiatreg, Ffisiotherapi, Therapi Galwedigaethol, Deieteg)
- Atgyfeiriad at dîm adsefydlu yn y gymuned
- Atgyfeiriad at y gwasanaeth cwympiadau
- Atgyfeiriad at dîm ysbyty (e.e. Rhiwmatoleg, Orthopedeg, Radioleg)
Os oes angen apwyntiad arnoch, bydd y gwasanaeth y cewch eich atgyfeirio ato yn gwneud hyn i chi.
Ceisio cymorth pellach – proses gwneud cais – gwentynsymudynwell
Beth sydd angen i mi feddwl amdano cyn llenwi ffurflen cais am gymorth?
Bydd y timau clinigol eisiau gwybod beth sy’n bwysig i chi yn eich bywyd ac eisiau i chi fod yn rhan o’ch penderfyniadau gofal iechyd. Rydym yn cydnabod mai chi yw eich arbenigwr bywyd eich hun ac mae gennym ddiddordeb yn eich nodau a’ch gobeithion am eich triniaeth.
Cwestiynau i chi
Mae adsefydlu’n gweithio’n fwy llwyddiannus wrth weithio tuag at weithgaredd neu dargedau penodol. Rydym yn cyfeirio at y rhain fel ‘nodau’.
Wrth feddwl am eich nodau, efallai y byddai’n ddefnyddiol ystyried yr hyn sydd wedi newid neu’r hyn yr effeithiwyd arno gan eich pryder cyhyr, cymal neu asgwrn.
Efallai yr hoffech feddwl am hyn o safbwynt:
- Eich lles
- Eich gweithgareddau dyddiol
- Eich gwaith
- Eich perthnasoedd
Cwestiynau i ni
Rydym am eich annog i ofyn cwestiynau i ni gan felly wneud dewisiadau gwybodus am eich gofal iechyd. Yn ystod eich apwyntiadau gyda ni, byddwn yn eich gwahodd i feddwl am hyn.
Hoffem eich gwahodd i feddwl am y tri chwestiwn yma ynglŷn â’ch penderfyniadau gofal iechyd:
- Beth yw fy opsiynau?
- Beth yw manteision ac anfanteision pob opsiwn i mi?
- Sut mae cael cefnogaeth i’m helpu i wneud penderfyniad sy’n iawn i mi?
Sut rydym yn bodloni Cyfamod y Lluoedd Arfog?
Mae’r Gwasanaethau Therapi yn awyddus i gefnogi cyn-filwyr y lluoedd arfog gyda’u hesgyrn, eu cyhyrau a’u cymalau.
Os ydych yn llenwi Ffurflen Cais am Gymorth am gyflwr a ddatblygwyd tra’r oeddech yn gwasanaethu, nodwch hyn ar y ffurflen. Bydd hyn yn cael ei ystyried os bydd eich cais yn cael ei drosglwyddo i wasanaeth iechyd ar gyfer asesiad neu driniaeth.
Os nad yw’r cyflwr rydych yn cysylltu â ni yn ei gylch yn un brys a’i fod wedi’i gategoreiddio fel ‘arferol’, bydd eich atgyfeiriad yn cael ei roi ar frig y rhestr aros arferol. Mae hyn yn golygu y byddwn yn cysylltu â chi i drefnu apwyntiad drwy lythyr.
Beth yw sesiynau addysg grŵp?
Nid yw pob cyflwr CYs yn gofyn am driniaeth unigol gan glinigydd. Gall llawer o bobl reoli eu cyflwr eu hunain yn llwyddiannus unwaith y byddant yn teimlo’n hyderus eu bod yn deall beth sy’n digwydd a sut y gallant helpu.
Bydd y Timau CYs yn cynnal sesiynau ar amrywiaeth o wahanol gyflyrau i roi gwybodaeth i chi am beth yw’r cyflwr hwnnw, beth mae’r dystiolaeth yn ei ddweud o ran ei reoli a pha opsiynau sydd ar gael. Bydd yr opsiynau’n wahanol yn dibynnu ar bob cyflwr a’r sylfaen dystiolaeth.
Beth gallaf ei ddisgwyl yn fy asesiad?
Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol ar gyfer apwyntiadau wyneb-yn-wyneb a rhithwir.
Yn ystod eich asesiad, bydd angen i’r clinigydd ofyn cwestiynau i chi am eich cyflwr, yn ogystal â’ch iechyd cyffredinol a’ch ffordd o fyw. Efallai y gofynnir i chi hefyd lenwi holiaduron. Mae’r math o gwestiynau a ofynnir i chi yn cynnwys:
- Pryd a sut y dechreuodd eich problem?
- Beth sy’n gwneud eich symptomau’n well neu’n waeth?
- Ar ba adeg o’r dydd y mae’ch symptomau’n well neu’n waeth?
- Sut mae’r broblem yn effeithio ar eich gweithgareddau o ddydd i ddydd?
- Beth ydych chi’n ei ddisgwyl gan ffisiotherapi?
- Pa weithgareddau yr hoffech ailgychwyn arnynt?
Bydd angen i’ch clinigydd eich archwilio, felly efallai y bydd angen i chi dynnu rhai eitemau o ddillad. Bydd angen i’r clinigydd hefyd ganfod beth yw’r safleoedd a’r symudiadau sy’n achosi anhawster i chi a gall hyn gynnwys cyffwrdd, symud neu ofyn i chi symud rhan boenus o’r corff.
Bydd y clinigydd yn trafod ac yn esbonio eich opsiynau triniaeth. Oherwydd yr angen i weithio ar y rhan boenus o’ch corff, gall y triniaethau a gynigir fod yn anghyfforddus. Os bydd unrhyw ran o’r asesiad neu’r driniaeth yn rhy boenus, rhowch wybod i’r clinigydd ar unwaith. Os ydych yn pryderu am boen parhaus neu newydd yn dilyn apwyntiad, cysylltwch â’r adran i ofyn am gyngor cyn gynted â phosibl.
Beth yw apwyntiad rhithwir?
Rydym yn cyfeirio at apwyntiad ffôn neu apwyntiad fideo fel ‘ymgynghoriad rhithwir’.
Gallwch ddweud wrth y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol am eich pryder a’ch cynnydd dros y ffôn neu’r alwad fideo a thrafod eich rheolaeth. Mae galwadau fideo yn rhoi cyfle i chi a’ch gweithiwr gofal iechyd proffesiynol weld eich gilydd heb i chi orfod teithio i apwyntiadau.
Mae llawer o bobl yn cael eu cefnogi’n llwyddiannus drwy ymgynghoriadau rhithwir heb fod angen iddynt fynychu apwyntiad wyneb-yn-wyneb.
Os oes gennych ffafriaeth benodol ynghylch sut y cewch eich cefnogi, gallwch drafod hyn gyda’ch gweithiwr gofal iechyd proffesiynol.
A allaf gael fy ngweld os oes gennyf anabledd neu ofynion arbennig?
Gallwch. Gellir cynnig cymorth i unrhyw un ag anghenion penodol e.e. cadair olwyn, nam ar y clyw neu’r golwg, anhwylder ar y sbectrwm awtistig, pobl nad ydynt yn siarad Saesneg ac ati. Cysylltwch â ni cyn eich apwyntiad cyntaf os credwch y gallai fod angen help ychwanegol arnoch.
Beth sydd ei angen arnaf ar gyfer apwyntiad?
- Rhestr o’r meddyginiaethau rydych yn eu cymryd ar hyn o bryd
- Pâr o siorts (os oes gennych rai) os oes gennych broblem â’ch cefn, eich coes neu’ch symudedd
- Efallai y byddwch am wisgo neu ddod â fest os oes gennych broblem yn rhan uchaf eich cefn, eich gwddf neu eich braich.
- Sbectol ddarllen (os oes ei hangen arnoch)
- Os ydych yn feichiog, dewch â’ch nodiadau mamolaeth gyda chi
- Dillad ysgafn ac esgidiau sodlau meddal ar gyfer dosbarthiadau
Pa mor hir fydd fy apwyntiad?
Mae’r rhan fwyaf o apwyntiadau cychwynnol rhwng 20-60 munud o hyd. Bydd hyn yn dibynnu ar eich cyflwr a’ch amgylchiadau penodol.
Dylech gael gwybod pa mor hir fydd eich apwyntiad pan fyddwch yn trefnu/cytuno ar eich apwyntiad.
Mae apwyntiadau fel arfer yn rhedeg yn brydlon. Ar adegau, efallai y bydd eich apwyntiad ychydig yn hwyr oherwydd cymhlethdodau annisgwyl. Os bydd hyn yn digwydd, bydd aelod o staff yn siarad â chi ac yn egluro’r oedi.
Byddwch yn brydlon ar gyfer eich apwyntiad. Os ydych yn hwyr efallai na fydd digon o amser ar gyfer eich apwyntiad ac efallai y bydd angen aildrefnu.
A allaf gael rhywun gyda mi yn fy apwyntiad?
O dan amgylchiadau arferol, mae croeso i chi ddod â rhywun. Efallai y bydd yn rhaid i hyn newid yn dibynnu ar brosesau atal heintiau sy’n cael eu defnyddio ar adeg archebu. Mae hyn yn golygu efallai na fyddwch yn gallu dod ag unrhyw un gyda chi i ystafell y clinig. Bydd hyn yn cael ei egluro i chi fel rhan o’r broses archebu apwyntiadau. Os nad ydych yn siŵr, gofynnwch i’r tîm.
Os oes angen cyfieithydd ar y pryd arnoch, neu os hoffech gael hebryngwr, rhowch wybod i ni ymlaen llaw a byddwn yn gwneud ein gorau glas i sicrhau bod un ar gael.
Beth os byddai’n well gennyf gael fy asesu gan glinigydd gwrywaidd/benywaidd?
Rhowch wybod i ni ar eich ffurflen ceisio cymorth neu cyn gynted â phosib a byddwn yn gwneud ein gorau glas i drefnu hyn.
Sut ydw i'n gwybod bod fy nghlinigydd yn gymwys?
Mae pob clinigydd sy’n gweithio yn y Bwrdd Iechyd wedi cofrestru gyda’r cyrff llywodraethu proffesiynol perthnasol (e.e. Cyngor Meddygol Cyffredinol, Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal). Gall clinigwyr ddirprwyo rhai agweddau ar eich gofal i weithiwr cymorth clinigol sydd wedi’i hyfforddi i helpu i gyflawni elfennau o’ch gofal. Mae croeso i chi ofyn am gael siarad â’ch clinigydd os hoffech drafod eich achos.
A fyddaf yn cael fy nhrin gan fyfyriwr?
Mae’n bosibl y gofynnir i chi a ydych yn hapus i gael eich asesu a’ch trin gan fyfyriwr. Bydd gan bob myfyriwr uwch glinigydd yn goruchwylio ei waith, er y bydd lefel yr oruchwyliaeth yn amrywio yn dibynnu ar brofiad y myfyriwr. Gofynnwch am gael siarad â’r goruchwylydd os hoffech drafod eich achos neu os oes gennych unrhyw bryderon. Os byddai’n well gennych beidio â chael eich trin gan fyfyriwr, ni fydd hyn yn effeithio ar ansawdd eich triniaeth mewn unrhyw ffordd.
A allaf ddweud na wrth fath penodol o archwiliad neu driniaeth?
Gallwch, eich dewis chi yw cydsynio. Rydych bob amser yn rhydd i ddweud na, neu i ofyn am ragor o wybodaeth cyn i chi benderfynu.
Hoffem eich gwahodd i feddwl bob tro am y tri chwestiwn yma ynglŷn â’ch penderfyniadau gofal iechyd:
- Beth yw fy opsiynau?
- Beth yw manteision ac anfanteision pob opsiwn i mi?
- Sut mae cael cefnogaeth i’m helpu i wneud penderfyniad sy’n iawn i mi?
Beth fydd yn digwydd os byddaf yn methu fy apwyntiadau?
Mae colli apwyntiadau mewn adrannau iechyd yn golygu gwastraffu amser triniaeth y gallem fod wedi ei gynnig i gleifion eraill. Felly rydym yn dilyn polisi llym iawn ar gyfer rheoli’r sefyllfa hon.
Os na allwch ddod i’ch apwyntiad cyntaf neu i unrhyw apwyntiad dilynol, cysylltwch â’r adran cyn gynted â phosibl cyn dyddiad eich apwyntiad er mwyn i ni allu ei gynnig i glaf arall.
Os byddwch yn methu apwyntiad heb roi gwybod i ni ymlaen llaw, neu os byddwch yn canslo dau apwyntiad yn olynol, byddwch yn cael eich rhyddhau o’r gwasanaeth. Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol sydd y tu hwnt i’ch rheolaeth y cewch gynnig apwyntiad arall.
Sut mae newid fy apwyntiad?
Os na allwch ddod i’ch apwyntiad cyntaf neu i unrhyw apwyntiad dilynol, cysylltwch â’r adran cyn gynted â phosibl cyn dyddiad eich apwyntiad er mwyn i ni allu ei gynnig i glaf arall.
Os byddwch yn methu apwyntiad heb roi gwybod i ni ymlaen llaw, neu os byddwch yn canslo dau apwyntiad yn olynol, byddwch yn cael eich rhyddhau o’r gwasanaeth. Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol sydd y tu hwnt i’ch rheolaeth y cewch gynnig apwyntiad arall.
Os oes angen i chi newid neu ganslo eich apwyntiad, ffoniwch yr adran gyda chymaint o rybudd â phosibl. Mae’r rhif i’w ddefnyddio yn dibynnu ar y tîm sy’n delio â’ch apwyntiad.
Os oes tîm clinigol yn y Bwrdd Iechyd eisoes yn eich cefnogi, cysylltwch â’r adran gan ddefnyddio’r rhifau ffôn ar eich cardiau apwyntiad.
Os na allwch ddod o hyd i fanylion cyswllt, darllenwch y wybodaeth gyswllt ar gyfer gwasanaethau BIPAB.
A allaf gael cludiant i'r ysbyty?
Dim ond os oes anghenion meddygol y gellir darparu cludiant a bydd angen i chi drefnu hyn eich hun ar gyfer eich apwyntiadau.
Beth os oes gennyf sylwadau, syniadau neu gwynion am y gwasanaeth a gefais?
Rydym bob amser yn ddiolchgar am unrhyw adborth gan gleifion ac mae croeso i chi roi eich syniadau o ran sut i wella’r gwasanaeth.
Byddem yn eich annog i ddefnyddio’r holiaduron profiad gan fod y gwasanaethau’n defnyddio’r rhain fel ffordd o fonitro profiad a nodi meysydd i’w gwella.
Os oes gennych unrhyw bryderon rydym yn eich annog i’w codi ar unwaith naill ai gyda’ch clinigydd yn uniongyrchol neu gyda’r rheolwr adran. Mae’r rhif ffôn cyswllt ar gael ar lythyr yr apwyntiad neu’r cerdyn. Byddant yn gwneud popeth o fewn eu gallu i’ch helpu.
Os byddai’n well gennych siarad â rhywun yn annibynnol, gallwch gysylltu â chanolfan alwadau’r Bwrdd Iechyd ar 01495 745656. Mae taflenni hefyd ar gael mewn adrannau sy’n esbonio gweithdrefn gwyno’r Bwrdd Iechyd – ‘Unioni Pethau’.
Nod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yw darparu gwasanaethau diogel o ansawdd uchel i bob defnyddiwr gwasanaeth. Nid yw’r Bwrdd Iechyd yn goddef unrhyw drais neu ymddygiad ymosodol yn erbyn ein staff neu ar ein safle a gall ddefnyddio teledu cylch cyfyng a/neu ddyfeisiau recordio sain pryd bynnag y bydd bygythiad i ddiogelwch personol. Bydd y dystiolaeth a geir yn cael ei defnyddio i sicrhau sancsiynau yn erbyn yr unigolion dan sylw.
Pwy all gael mynediad i'r gwasanaeth hwn?
I ofyn am gymorth neu hunan-atgyfeirio at y ganolfan CYs, mae angen i chi fod yn byw yn nalgylch Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan neu fod â meddyg teulu yn ardal y Bwrdd Iechyd.
Bwrdeistrefi’r Bwrdd Iechyd yw:
- Blaenau Gwent
- Caerffili
- Sir Fynwy
- Casnewydd
- Torfaen
Os nad ydych yn gymwys ond bod angen cyngor arnoch ar broblem CYs, siaradwch â’ch meddyg teulu neu darllenwch dudalennau gwe eich ardal Bwrdd Iechyd i weld a allwch atgyfeirio eich hun at wasanaeth CYs lleol.
Oes rhaid i mi lenwi unrhyw holiaduron neu arolygon?
Rydym yn defnyddio mesuriadau canlyniadau a holiaduron profiad i’n helpu i:
- nodi pa wasanaeth neu ddull gweithredu a allai fod fwyaf priodol i chi
- deall a yw’r gwasanaethau rydym yn eu cynnig yn ddefnyddiol i chi ac yn hawdd i’w defnyddio
- deall y cyngor neu’r driniaeth rydych yn ei chael yn effeithiol
- mapio anghenion ar gyfer poblogaeth Gwent
Gellir gofyn y cwestiynau hyn ar y dechrau, ar bwyntiau yn ystod eich taith ac ar ôl i chi gael eich rhyddhau. Gall yr holiaduron neu’r arolygon fod yn electronig neu ar bapur a’ch dewis chi yw eu cwblhau. Rydych bob amser yn rhydd i ddweud na, neu i ofyn am ragor o wybodaeth cyn gwneud penderfyniad.
Meddwl am ddewisiadau - Ein Iechyd - Ein Gwybodaeth
Ein Iechyd – Ein Gwybodaeth – Mae’r cwrs gwe byr hwn wedi’i gynllunio i helpu pobl sy’n meddwl am ddewisiadau ym maes gofal iechyd. Mae hynny’n cynnwys cleifion, aelodau o’r teulu, gofalwyr, myfyrwyr gofal iechyd, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, a llunwyr polisi.
Ble alla i gael cymorth ar gyfer Ffibromyalgia?
Mae Syndrom Ffibromyalgia yn syndrom poen cronig a nodweddir gan boenau ac anesmwythyd cyhyrysgerbydol, a ddisgrifir yn aml fel mud-boenau neu deimlad o losgi, a all deithio i rannau eraill o’r corff. Mae’r syndrom poen hwn yn aml yn cyd-fynd â chasgliad o symptomau eraill, gan gynnwys blinder, cwsg aflonydd, namau gwybyddol (a elwir yn Saesneg yn “Fibro Fog”), syndrom coluddyn llidus, cur pen, anhwylder cymalau temporomandibiwlaidd, ac effeithiau seicolegol megis gorbryder ac iselder.
Am ragor o gymorth a chyngor ewch i’r Gwasanaeth Rheoli Symptomau
ENGLISH







