1. Hafan
  2. Body Parts
  3. Troed a Phigwrn

Troed a Phigwrn

Mae eich troed a’ch ffêr yn cynnwys llawer o wahanol esgyrn, cymalau a meinweoedd meddal.

Rydym wedi cynllunio dull tri cham i’ch helpu i ddeall eich opsiynau a’ch annog i feddwl am yr holl bethau a allai fod yn effeithio ar eich problem.

Ble mae’n cael ei deimlo?

Mae’r droed a’r ffêr fel arfer wedi’u gwahanu’n 4 ardal a gellir teimlo poen yn unrhyw un o’r ardaloedd hyn:

Mae 26 o esgyrn yn y droed, 30 cymal a mwy na 100 o gyhyrau, tendonau a ligamentau, yn ogystal â nerfau a phibellau gwaed.  Gellir teimlo poen troed a phigwrn yn eich coes isaf, o amgylch eich pigwrn ac i mewn i’ch traed a’ch bysedd traed.

Pigwrn

Ffurfir y cymal mwyaf (pigwrn) rhwng esgyrn y goes isaf (Tibia a Ffibwla) ac Asgwrn y Pigwrn.  Dyma’r cymal rhwng y droed a’r goes.  Mae’n gymal colyn sy’n caniatáu i’r droed symud i fyny ac i lawr.

an image of a foot with the ankle region highlighted

Blaen y droed

Mae blaen y droed yn cynnwys y pum asgwrn metatarsol, y bysedd traed a meinweoedd meddal.  Mae blaen y droed yn gweithredu fel amsugnwr sioc ac yn addasu i gerdded ar dir anwastad. Mae hefyd yn chwarae rhan bwysig wrth wthio i ffwrdd wrth gerdded neu redeg.

Image shows forefoot

Canol y droed

Mae ardal canol y droed yn mynd o waelod y metatarsalau hyd at flaen y pigwrn.  Mae canol y droed nid yn unig yn rheoli’r grymoedd o bwysau’r corff uwchlaw, ond hefyd y grymoedd troi wrth i’r droed addasu i symud dros dir anwastad.

an image of a foot with the top of the foot area highlighted

Cefn y droed

Mae ardal cefn y droed yn cynnwys y cymal isdalar, y calcanews (yr asgwrn sawdl) a meinweoedd meddal.  Mae’r cymal isdalar yn eistedd yn uniongyrchol o dan y pigwrn ac yn caniatáu i’r droed rolio i mewn (pronadu) ac allan (dyleddfu) sy’n ein helpu i gerdded ar arwynebau anwastad ac yn helpu i amsugno sioc.

a foot with the heel area highlighted

Sut y gall problem CYs effeithio arnaf fi?

Gall y symptomau gael eu teimlo wrth wneud gweithgareddau syml o ddydd i ddydd fel cerdded, sefyll, ymarfer corff neu symud eich traed a’ch pigyrnau.  Gall poen troed a phigwrn effeithio ar ein gallu i wneud gweithgareddau dyddiol, gan gynnwys gwaith a hobïau.

Ar adegau gall y boen deimlo’n ddifrifol ac i rai gall fod yn barhaus.   Gall hyn effeithio ar ein lles cyffredinol a’n hiechyd meddwl.

Pam mae’n digwydd?

Mae traed yn gymhleth ac weithiau gallant achosi poen i ni.  Mae llawer o achosion o boen troed a phigwrn.  Gall effeithio ar unrhyw un ohonom, ar unrhyw oedran.

Gall poen troed a phigwrn ddechrau oherwydd anaf (er enghraifft baglu neu gwympo), gan eich bod yn gwneud mwy nag yr ydych yn ei wneud fel arfer (er enghraifft, gwneud mwy o weithgarwch neu ymarfer corff) neu gall hefyd ddechrau am ddim rheswm amlwg.

I lawer o bobl, mae poen troed a phigwrn yn digwydd yn raddol, heb unrhyw anaf penodol.  Gall hyn gael ei achosi gan:

  • Newidiadau arferol sy’n gysylltiedig ag oedran
  • Y swydd neu’r chwaraeon rydych chi’n eu gwneud
  • Os ydych chi wedi cael anaf i’ch traed neu’ch pigwrn o’r blaen
  • Y ffordd rydych chi’n cerdded neu’n rhedeg

A yw’n ddifrifol?

Er y gall y boen a’r anabledd a achosir gan episod neu waethygiad sydyn poen troed a phigwrn fod yn ddifrifol i ddechrau, nid yw fel arfer yn arwydd o anaf neu niwed difrifol.

Fodd bynnag, bydd angen i chi weld eich meddyg teulu:

  • Os oes gennych droed, pigwrn neu fys troed poeth, poenus neu sydd wedi chwyddo’n sylweddol neu lwmp newydd ac anarferol ar eich troed neu bigwrn
  • Os ydych chi’n teimlo’n sâl, ar fin chwydu neu’n dioddef o dwymyn ochr yn ochr â phoen troed a phigwrn

Mae’n bwysig nad ydych yn anwybyddu poen parhaus yn y droed.

Os ydych chi wedi cael anaf diweddar i’r droed neu’r pigwrn ac na allwch roi pwysau arnynt, mae angen i chi gael eich asesu ymhellach mewn adran mân anafiadau.  Ewch i’ch uned mân anafiadau leol os:

  • Clywsoch chi sŵn snapio, cracio neu bop ar yr adeg y digwyddodd
  • Na allwch sefyll na cherdded arno
  • Yw eich troed wedi newid siâp

A fydd yn gwella?

I’r rhan fwyaf o bobl, yr ateb yw ‘bydd’ gan y bydd y rhan fwyaf o symptomau’n lleddfu yn y 2 i 6 wythnos gyntaf mewn achos newydd o boen troed a phigwrn neu os bydd poen troed a phigwrn hirsefydlog yn gwaethygu’n sydyn.   Gall gymryd mwy o amser i rai pobl adfer ac mae rhai’n disgrifio problemau parhaus.

Y newyddion da yw bod sawl peth y gallwch eu gwneud i helpu gan y gellir rheoli llawer o’r poenau hyn yn hawdd iawn gartref.  Bydd cymryd camau i ofalu am eich iechyd corfforol a meddyliol yn rhoi’r cyfle gorau i chi wella’n llwyddiannus.

Seniors exercising in the park

Lleihau gweithgarwch poenus.

Er mwyn i chi roi cyfle i’ch troed a’ch pigwrn wella o anaf, mae’n bwysig lleihau gweithgareddau sy’n gwneud eich symptomau’n llawer gwaeth, fel rhedeg neu gerdded a sefyll am gyfnodau hir.  Fodd bynnag, mae hefyd yn bwysig cadw’r droed a’r pigwrn i symud er mwyn osgoi stiffrwydd yn eich cymalau a gwanhau eich cyhyrau.  Ystyriwch rywfaint o’r wybodaeth hunangymorth isod i’ch tywys drwy’r broses adfer.

Pair of trainers

Esgidiau

Dewis yr esgid gywir yw un o’r pethau pwysicaf i’w gael yn gywir pan fydd gennych boen yn eich troed a’ch pigwrn. Maent fel sylfaeni adeilad – bydd popeth arall sy’n dilyn yn dibynnu ar ddefnyddio’r esgid gywir.

lady at home with feet up on a stool. Image shows her foot and lower leg bandaged

Rheoli Anafiadau Acíwt

Yn y dyddiau, yr wythnosau a’r misoedd yn dilyn anaf mae llawer o bethau y gallwch eu gwneud i helpu eich hun. Bydd dilyn y cyngor a nodir yn Rheoli Anafiadau Acíwt yn eich tywys drwy ‘beth i’w wneud a phryd’ fel eich bod yn rhoi’r cyfle gorau i’r strwythur a anafwyd wella.

Male doing a calf stretch

Ymestyn Croth y Goes

Mae’r ddau gyhyr croth yng nghefn eich coes wedi’u cysylltu â’ch sawdl drwy’r tendon Achilles.   Mae cyhyrau croth y goes yn actif iawn yn ystod gweithgareddau o ddydd i ddydd – maen nhw’n ein codi ni i fyny, yn ein gyrru yn ein blaen ac yn sefydlogi ein pigyrnau.  Gallant fynd yn dynn yn sgil y gwaith dyddiol hwn, heneiddio, a rhai cyflyrau meddygol fel diabetes.

Pan fo cyhyrau croth y goes yn dynn bydd mwy o bwysau ar y traed a’r pigwrn ac mae’n bwysig eu hymestyn yn rheolaidd i helpu i wella faint gallan nhw symud ac i leihau poen.

two feet on a rolling massage tube

Dysgwch fwy am:

Beth gellir ei wneud i’m helpu?

Efallai y bydd angen asesiad o’ch problem a’ch triniaeth os nad yw’r cyngor hunanreoli yng Ngham Tri yn helpu.  Ystyriwch ofyn am gymorth pellach.

Os ydych chi’n dal i bryderu am y symptomau rydych chi’n eu profi ac yn ansicr beth i’w wneud cysylltwch â’ch meddyg teulu neu ffoniwch GIG Cymru 111.

Gwybodaeth

Menu