Mae poen cefn isaf yn symptom cyffredin sy’n gysylltiedig â’r cyhyrau, cymalau ac esgyrn.
Poen Cefn Isaf
Ble mae’n cael ei deimlo?
Mae symptomau cyffredin yn cynnwys poen, stiffrwydd, a gwingiadau yn y cyhyrau.
Gellir teimlo’r rhain rhwng gwaelod cawell yr asennau a’r cefn isaf ac ardal y pen-ôl.
Sut gallai effeithio arnaf fi?
- Gall y symptomau gael eu teimlo wrth wneud gweithgareddau syml o ddydd i ddydd fel eistedd, plygu, codi, cerdded ac ymarfer corff
- Gall poen cefn isaf effeithio ar ein gallu i wneud gweithgareddau dyddiol, gan gynnwys gwaith a hobïau
- Ar adegau gall y boen deimlo’n ddifrifol ac i rai gall fod yn barhaus. Gall hyn effeithio ar ein lles cyffredinol a’n hiechyd meddwl
Pam mae’n digwydd?
Gall poen cefn isaf ddechrau oherwydd anaf (er enghraifft cwymp neu ddigwyddiad ‘troi’), gan eich bod yn gwneud mwy nag yr ydych yn ei wneud fel arfer (er enghraifft, codi mwy o bethau neu gynyddu’ch ymarfer corff) neu gall ddechrau am ddim rheswm amlwg.
Mae ffactorau a fydd o bosibl yn cynyddu’r risg o boen cefn isaf yn cynnwys poen cefn blaenorol, gordewdra, ysmygu, statws addysgol, straen, gorbryder, iselder, materion gwaith a swyddi lle mae dirgryniad i’r corff cyfan.
Gall effeithio ar unrhyw un ohonom, ar unrhyw oedran.
A yw’n ddifrifol?
Er y gall y boen a’r anabledd a achosir gan episod neu waethygiad sydyn poen cefn isaf fod yn ddifrifol i ddechrau, anaml iawn y mae’r symptomau’n arwydd o rywbeth difrifol.
Fodd bynnag, bydd angen i chi weld eich meddyg teulu ar frys neu gysylltu â 111 am gymorth brys:
Os ydych chi’n profi poen cefn gyda neu heb symptomau yn y goes, ochr yn ochr â
- Phroblemau newydd neu broblemau sy’n gwaethygu o ran dechrau neu stopio pasio wrin (dŵr)
- Problemau newydd neu broblemau sy’n gwaethygu o ran dechrau neu stopio agor y coluddyn (gan gynnwys baeddu eich hun)
- Diffyg teimlad newydd, diffyg teimlad sy’n gwaethygu neu deimlad newydd o amgylch yr organau rhywiol neu’r anws (y rectwm)
Os oes gennych boen cefn gyda symptomau yn y goes a gwendid yng nghyhyrau’r coesau neu’r traed, gofynnwch am gymorth pellach neu ewch i weld eich meddyg teulu.
Os ydych chi’n teimlo’n sâl, ar fin chwydu neu’n dioddef o dwymyn ochr yn ochr â phoen cefn isaf, gwnewch apwyntiad gyda’ch meddyg teulu.
A fydd yn gwella?
I’r rhan fwyaf o bobl, yr ateb yw ‘bydd’ gan y bydd y rhan fwyaf o symptomau’n lleddfu yn y 2 i 6 wythnos gyntaf mewn achos newydd o boen cefn isaf neu os bydd poen cefn isaf hirsefydlog yn gwaethygu’n sydyn. Gall gymryd mwy o amser i rai pobl adfer ac mae rhai’n disgrifio problemau parhaus.
Bydd cymryd camau i ofalu am eich iechyd corfforol a meddyliol yn rhoi’r cyfle gorau i chi wella’n llwyddiannus.
Beth gallaf ei wneud i helpu fy hun?
Mae rhai o’r pethau pwysicaf y gallwch eu gwneud i helpu eich poen cefn yn gysylltiedig â’ch dewisiadau ffordd o fyw a’ch iechyd cyffredinol. Rydym wedi cynnwys rhai dolenni defnyddiol i’ch helpu.
Mae’r wybodaeth yng Ngham Dau a Cham Tri yn esbonio’r ffactorau a all effeithio ar ddifrifoldeb ac effaith symptomau cyhyrau, ar y cyd ac esgyrn.
Mae Cam Dau yn esbonio’r ffactorau a allai fod yn cyfrannu at eich sefyllfa.
Mae Cam Tri yn esbonio cyngor hunanreoli ar yr hyn y gallwch ei wneud i helpu eich hun.
Bydd dilyn y broses 3 cham yn eich helpu i wneud y gorau o’r wybodaeth ar y wefan hon.
Dysgwch fwy am:
Os ydych am gael rhagor o wybodaeth am boen cefn isaf, ystyriwch ddarllen yr adnoddau dibynadwy hyn:
Beth gellir ei wneud i’m helpu?
Efallai y bydd angen asesiad o’ch problem a’ch triniaeth os nad yw’r cyngor hunanreoli yng Ngham Tri yn helpu. Ystyriwch ofyn am gymorth pellach.
Os ydych chi’n dal i bryderu am y symptomau rydych chi’n eu profi ac yn ansicr beth i’w wneud cysylltwch â’ch meddyg teulu neu ffoniwch GIG Cymru 111.
ENGLISH

















