1. Hafan
  2. Body Parts
  3. Poen Gwddf

Poen Gwddf

Mae poen gwddf yn symptom cyffredin sy’n gysylltiedig â’r cyhyrau, cymalau ac esgyrn.

Rydym wedi cynllunio dull tri cham i’ch helpu i ddeall eich opsiynau a’ch annog i feddwl am yr holl bethau a allai fod yn effeithio ar eich problem.

Ble mae’n cael ei deimlo?

Mae’n bosibl y teimlwch boen a stiffrwydd yn y gwddf, pen, ysgwyddau a’r cefn uchaf.

Mae’r symptomau i’w teimlo wrth wneud gweithgareddau syml o ddydd i ddydd fel eistedd, symud eich gwddf, safleoedd gwddf lletchwith.

Gall poen gwddf effeithio ar ein gallu i wneud gweithgareddau dyddiol, gan gynnwys gwaith a hobïau.

Ar adegau gall y boen deimlo’n ddifrifol ac i rai gall fod yn barhaus.  Gall hyn effeithio ar ein lles cyffredinol a’n hiechyd meddwl.

Pam mae’n digwydd?

Gall poen gwddf ddechrau oherwydd anaf (er enghraifft damwain car), gan eich bod yn gwneud mwy nag yr ydych yn ei wneud fel arfer (er enghraifft, codi mwy o bethau neu gynyddu’ch ymarfer corff) neu gall ddechrau am ddim rheswm amlwg.

Gall effeithio ar unrhyw un ohonom, ar unrhyw oedran.

A yw’n ddifrifol?

Er y gall y boen a’r anabledd a achosir gan episod neu waethygiad sydyn poen gwddf fod yn ddifrifol i ddechrau, anaml iawn y mae’r symptomau’n arwydd o rywbeth difrifol.

Fodd bynnag, bydd angen i chi weld eich meddyg teulu:

  • Os oes gennych gur pen difrifol, pendro, newidiadau i’ch golwg neu’ch clyw.
  • Os ydych chi’n teimlo’n sâl, ar fin chwydu neu’n dioddef o dwymyn ochr yn ochr â phoen gwddf.

Os ydych chi’n teimlo poen gwddf ochr yn ochr â newid neu ddirywiad yn eich cerdded, cydbwysedd neu allu i afael mewn pethau a defnyddio’ch dwylo, ystyriwch ofyn am gymorth pellach neu weld eich meddyg teulu.

Os ydych chi’n sylwi ar wendid yn eich breichiau a/neu’ch dwylo ochr yn ochr â phoen gwddf ystyriwch geisio cymorth pellach neu weld eich meddyg teulu.

A fydd yn gwella?

I’r rhan fwyaf o bobl, yr ateb yw ‘bydd’ gan y bydd y rhan fwyaf o symptomau’n lleddfu yn y 2 i 6 wythnos gyntaf mewn achos newydd o boen gwddf neu os bydd poen gwddf hirsefydlog yn gwaethygu’n sydyn.   Gall gymryd mwy o amser i rai pobl adfer ac mae rhai’n disgrifio problemau parhaus.

Bydd cymryd camau i ofalu am eich iechyd corfforol a meddyliol yn rhoi’r cyfle gorau i chi wella’n llwyddiannus.

Beth gallaf ei wneud i helpu fy hun?

Mae rhai o’r pethau pwysicaf y gallwch eu gwneud i helpu eich poen gwddf yn gysylltiedig â’ch dewisiadau ffordd o fyw a’ch iechyd cyffredinol.  Rydym wedi cynnwys rhai dolenni defnyddiol i’ch helpu.

Mae’r wybodaeth yng Ngham Dau yn esbonio’r ffactorau a all effeithio ar ddifrifoldeb ac effaith symptomau cyhyrau, cymalau ac esgyrn.

Mae Cam Dau yn esbonio’r ffactorau a allai fod yn cyfrannu at eich sefyllfa.

Mae Cam Tri yn esbonio cyngor hunanreoli ar yr hyn y gallwch ei wneud i helpu eich hun.

Beth gellir ei wneud i’m helpu?

Efallai y bydd angen asesiad o’ch problem a’ch triniaeth os nad yw’r cyngor hunanreoli yng Ngham Tri yn helpu.  Ystyriwch ofyn am gymorth pellach. 

Os ydych chi’n dal i bryderu am y symptomau rydych chi’n eu profi ac yn ansicr beth i’w wneud cysylltwch â’ch meddyg teulu neu ffoniwch GIG Cymru 111.

Gwybodaeth

Menu