Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a phum Awdurdod Lleol Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen yn cydweithio i gefnogi pobl ledled Gwent
Yma fe welwch ddolenni i wefannau defnyddiol y Bwrdd Iechyd a’r Awdurdodau Lleol a allai eich helpu i reoli eich problem gyhyrysgerbydol.
Gwasanaethau ledled Gwent:
Gwybodaeth am wasanaethau iechyd ledled Gwent o wasanaethau meddyg teulu a gwasanaethau cymunedol i wasanaethau ysbytai.

Mae Chwaraeon Anabledd Cymru yn cynnig llawer o gyfleoedd chwaraeon cynhwysol yn eich ardal leol. Gallwch chwilio am gyfleoedd chwaraeon yn ôl anabledd, camp neu awdurdod lleol.

Mae Dewis Cymru yn wefan sy’n ceisio helpu pobl gyda’u lles – o’u lles eu hunain i les aelod o’r teulu neu ffrind.

Rhwydweithiau Lles Integredig yng Ngwent – Yn darparu cymorth a gwybodaeth i helpu pobl sy’n byw ac yn gweithio yn; Nhorfaen, Casnewydd, Sir Fynwy, Caerffili, Blaenau Gwent i ofalu am eu lles corfforol a meddyliol.
Mapio a chefnogi gwasanaethau lles yn eich ardal leol.

Mae AskSARA yn offeryn asesu ar-lein am ddim sy’n cael ei redeg gan yr elusen genedlaethol Disabled Living Foundation (DLF). Gall AskSARA eich helpu i ddod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol am gynhyrchion i wneud gweithgareddau bob dydd yn eich cartref yn haws.
Dewiswch bwnc yr hoffech gael help gydag ef, atebwch rai cwestiynau syml am eich hun a’ch amgylchedd ac, yn seiliedig ar eich atebion, bydd AskSARA yn awgrymu:
- syniadau ac awgrymiadau am ffyrdd o wneud eich bywyd yn haws
- manylion cynhyrchion a allai helpu a ble i’w cael
- cysylltiadau am fwy o gyngor a chymorth os oes angen

Cyfeiriadur gwasanaethau trydydd sector yng Nghymru yw Infoengine, gan dynnu sylw at amrywiaeth eang o wasanaethau gwirfoddol a chymunedol rhagorol.
ENGLISH















