Yma fe welwch ddolenni i Elusennau Cenedlaethol a Grwpiau Cymorth a allai fod o gymorth i chi wrth reoli eich problem cyhyrysgerbydol.

Straeon o Aros yn Actif Gyda Chyflyrau Iechyd | We Are Undefeatable Mae “We Are Undefeatable” yn fudiad cyfunol sy’n cefnogi pobl sydd ag ystod o gyflyrau iechyd hirdymor. Mae’r ymgyrch wedi cael ei datblygu gan 15 o elusennau iechyd a gofal cymdeithasol blaenllaw. Eu pwrpas yw eich cefnogi a’ch annog i ddod o hyd i ffyrdd o fod yn actif mewn ffordd sy’n gweithio i chi a’ch cyflwr iechyd.

Arthritis UK | Dyfodol heb arthritis – Cymuned o bobl sy’n rhoi cymorth i bobl sydd ag arthritis ar draws y DU. Mae Arthritis UK yn rhoi gwybodaeth i bobl sy’n byw ag arthritis yn lleol yn BIPAB ac ar draws y DU, yn ariannu ymchwil i arthritis ac yn cefnogi gweithwyr proffesiynol. Mae Versus Arthritis yn rhoi cymorth a gwybodaeth ynghylch arthritis a thriniaethau ac mae ganddynt linell gymorth (Dydd Llun i ddydd Gwener).

Elusen Arthritis y DU – Arthritis Action – Mae Arthritis Action yn elusen yn y DU sy’n cynnig dull hunanreoli integredig, er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r symptomau corfforol a’r symptomau iechyd meddwl o fyw ag arthritis. Maent yn rhoi cymorth a chyngor i bobl sy’n byw ag arthritis.

National Axial Spondyloarthritis Society (nass.co.uk) – Mae National Axial Spondyloarthritis Society yn elusen sy’n canolbwyntio ar drawsnewid diagnosis a gofal i bobl sy’n byw ag Axial SpA. Mae’r dudalen we yn rhoi cyngor a hunangymorth â chymorth ar gyfer pobl sy’n byw ag Axial Spondyloarthritis.

NRAS | Elusen arthritis gwynegol – Mae NRAS yn rhoi gwybodaeth ac yn darparu gwasanaethau cymorth i’r rhai yr effeithir arnynt gan arthritis gwynegol (RA), eu teuluoedd, eu ffrindiau, eu gofalwyr a gweithwyr proffesiynol iechyd.

Live Well With Pain – Living Well Despite Your Pain Byw yn dda gyda phoen – byw’n dda er gwaethaf eich poen

Pain Concern –Rydym yn gweithio i wella bywydau pobl sy’n byw gyda phoen a’r rhai sy’n gofalu amdanynt

The Free Mindfulness Project –llawer o adnoddau am ddim, gan gynnwys myfyrdodau dan arweiniad
ENGLISH












