Beth yw’r meopos?
- Menopos yw pan fydd eich mislif yn dod i ben oherwydd lefelau hormonau is. Mae hyn fel arfer yn digwydd rhwng 45 a 55 oed
- Mae’n gallu digwydd yn gynharach yn naturiol weithiau. Neu am resymau fel llawdriniaeth i dynnu’r ofarïau (öofforectomi) neu’r groth (hysterectomi), triniaethau canser fel cemotherapi, neu am reswm genetig. Weithiau mae’r rheswm yn anhysbys
Symptomau’r menopos

Er mai ychydig iawn o symptomau y bydd gan rai pobl bydd y rhan fwyaf o bobl yn cael rhai o Symptomau’r menopos a bydd yn effeithio arnyn nhw mewn gwahanol ffyrdd a difrifoldeb.
Felly pam rydyn ni’n trafod Menopos pan ddaw hi at iechyd cyhyrysgerbydol?
I 21% o’r rhai sy’n mynd trwy’r menopos, poen yn y cymalau fydd eu prif symptom. Mae Osteoporosis (yr esgyrn yn gwanhau) a sarcopenia (colli màs a chryfder y cyhyrau) hefyd yn gyflyrau cyffredin iawn sy’n gysylltiedig â’r menopos, sydd â goblygiadau ehangach ar ein hiechyd.
Y newyddion da yw bod ymarfer corff, cwsg da a ffordd iach o fyw yn fuddiol wrth helpu i leihau effaith hirdymor osteoporosis, gwendid yn y cyhyrau, fflysio poeth, chwysu liw nos, ac iechyd meddwl. Mae hyn yn ychwanegol at y Manteision ehangach o ymarfer corff ar glefydau eraill.
Mae ymarferion cryfhau yn arbennig o bwysig ar gyfer gwella sut mae’r cyhyrau yn gweithio ac iechyd esgyrn ond peidiwch â phoeni, nid yw hyn yn golygu gorfod mynd i’r gampfa. gweler y Stronger My Way y PDC am ffyrdd o ymgorffori ymarferion cryfder yn eich bywyd.
Ar gyfer syniadau am ymarferion corff cardiofasgwlaidd, cryfder a gwrthwynebiad, ioga a pilates gweler Stiwdio ffitrwydd y GIG
Am wybodaeth bellach ynghylch y menopos:
Iechyd A-Y : Y menopos – GIG 111 Cymru
Y menopos – Pryder Iechyd Menywod

ENGLISH






