Dyma wybodaeth i chi am sut i reoli anaf meinwe meddal acíwt gan ddefnyddio’r canllawiau ‘POLICE’.

Ymhlith yr enghreifftiau o anafiadau meinwe meddal mae ‘tynnu’ cyhyr neu straenio ligament.  Gall anaf i feinwe meddal ddigwydd gyda thrawma sydyn fel troi’r pigwrn, ergyd i’ch braich neu dynnu eich llinyn gar neu groth y goes.

Bydd llawer o bobl yn ymwybodol o’r acronymau Saesneg RICE (Gorffwys, Iâ, Cywasgu, Codi) neu PRICE (Amddiffyn, Iâ, Cywasgu, Codi).   Mae’r newid yn y canllawiau wedi digwydd gan fod ymchwil wedi dangos, ynghyd â diogelu’r ardal boenus, fod Llwytho Optimaidd i roi straen cadarnhaol ar feinweoedd yr ardal yn helpu gyda’r broses wella.  Gall gormod o orffwys arwain at stiffrwydd yn y cymalau a gwendid yn y cyhyrau.  Gall hyn achosi oedi wrth ddychwelyd at swyddogaeth arferol.

Weithiau mae’n anodd gwybod beth yw llwytho optimaidd gan y bydd hyn yn wahanol ar gyfer gwahanol rannau o’r corff a chyhyrau a ligament.  Yn y cyfnodau cynnar, gallwch ddefnyddio poen fel dangosydd.  Peidiwch â bod ofn symud a defnyddio’r ardal a anafwyd o fewn eich terfyn poen.  Sicrhewch eich bod yn defnyddio poenladdwyr – mae poen ysgafn i’w ddisgwyl yn y dyddiau cynnar ac efallai y byddwch yn ei deimlo pan fyddwch yn dechrau symud i ddechrau neu pan fyddwch yn gwthio terfynau eich symudiad.  Os yw’r boen yn dechrau gostwng wrth i chi barhau i symud yn ysgafn neu dynnu’n ôl o’ch terfynau symudiad, mae hyn yn normal.  Os yw’r boen yn parhau neu’n gwaethygu, mae’n arwydd eich bod yn gwneud gormod, siŵr o fod.

Mae angen i chi sicrhau eich bod yn parhau i wneud cynnydd gyda’r hyn rydych yn ei wneud, gan y bydd hyn yn helpu eich anaf i wella’n well.   I’r rhan fwyaf o bobl, bydd y rhan fwyaf o symptomau’n lleddfu yn y 2 i 6 wythnos gyntaf mewn achos newydd o boen neu os bydd cyflwr hirsefydlog yn achosi trafferth.   Gall gymryd mwy o amser i rai pobl adfer ac mae rhai’n disgrifio problemau parhaus.

Efallai y bydd angen asesiad o’ch problem a’ch triniaeth os nad yw’r canllawiau POLICE na’r cyngor hunanreoli yng Ngham 2 a Cham 3 yn helpu.  Ystyriwch ofyn am gymorth pellach.

Os hoffech gael copi printiedig o’r wybodaeth uchod, defnyddiwch y ddolen hon

Gwybodaeth
Menu