Defnyddir therapi poeth yn aml i wella llif y gwaed i ddod â maetholion i ardal o’r corff a fflysio neu wanhau tocsinau, cyflymu gwellhad meinweoedd a gwella hyblygrwydd meinweoedd meddal.

Defnyddio gwres

Ni argymhellir defnyddio gwres ar anaf acíwt ond gall fod yn ddefnyddiol ar gyfer lleihau poen a gwella symudiad gyda phoen hirdymor.

Manteision therapi gwres
  • Lleddfu poen
  • Lleihau poen a gwingiadau yn y cyhyrau
  • Mae’n eich helpu i gyflawni symudiadau a gweithgareddau arferol yn gynt
Gallwch chi ddefnyddio:
  • Dŵr cynnes – bath, twba twym
  • Potel dŵr poeth
  • Pecynnau microdon
  • Ystafelloedd stêm/sawna
  • Eli gwres
Defnydd

I osgoi llosgi neu niweidio eich croen, sicrhewch eich bod yn lapio ffynhonnell y gwres mewn tywel.

Byddwch yn ymwybodol o’r tymheredd – dylai’r gwres fod yn gyfforddus bob amser.

Peidiwch â defnyddio gwres:
  • Dros groen sydd wedi torri neu glwyf, yn enwedig os oes gwaedu
  • Os oes gennych ddiffyg teimlad dros ardal o groen sy’n ddideimlad, yn enwedig os oes gennych Ddiabetes
  • Ar rannau o’r corff lle gwyddoch fod gennych gylchrediad gwaed gwael
  • Os oes gennych haint

Os hoffech gael copi printiedig o’r wybodaeth uchod, defnyddiwch y ddolen hon

Gwybodaeth
Menu