Gall pawb gwympo ac mae cwympo yn achos cyffredin o anaf.
Pan fyddwch chi’n blentyn bach, rydych chi’n dysgu beth mae disgyrchiant yn ei wneud trwy gwympo, ynghyd â sut i symud eich breichiau, eich coesau a’ch corff i gydbwyso, cropian, sefyll, cerdded a rhedeg yn y pen draw.
Fodd bynnag, wrth i chi fynd yn hŷn, neu os oes gennych gyflwr iechyd hirdymor, rydych yn fwy agored i niwed felly gall hyd yn oed cwymp ‘syml’ arwain at ganlyniadau mwy difrifol.
Mae pobl yn fwy tebygol o gwympo:
- Os oes ganddynt broblem gyda’u cydbwysedd
- Os oes ganddynt gyhyrau gwan
- Os ydyn nhw wedi colli unrhyw faint o’u golwg (gan gynnwys gwisgo’r sbectol anghywir)
- Os ydyn nhw’n colli eu clyw
- Os ydyn nhw’n cymryd llawer o feddyginiaethau
- Os oes ganddynt bwysedd gwaed isel, a all roi pendro i bobl os ydyn nhw’n codi’n rhy gyflym
- Os ydyn nhw wedi drysu neu ddim yn talu sylw i’w hamgylchedd
- Yn dioddef o ddiffyg maeth
Gall pobl ffit ac iach gwympo hefyd:
- Os yw’r llawr yn wlyb neu wedi’i sgleinio
- Os nad oes digon o olau i weld yn iawn
- Os ydyn nhw’n rhuthro i gyrraedd rhywle (e.e. i fynd i’r toiled neu ateb y ffôn)
- Os nad yw’r llawr yn glir o rwystrau neu ddim yn wastad (gan gynnwys rygiau)
- Os ydyn nhw’n gorymestyn, yn enwedig os ydyn nhw’n ceisio codi rhywbeth o’r ochr neu ar silff uwch eu pen
- Os nad yw ysgolion na stolion camu a ddefnyddir i gyrraedd uchder yn cael eu sefydlogi’n briodol
- Os ydyn nhw o dan ddylanwad diod neu gyffuriau neu’n dadhydradu ac felly’n llewygu
- Os oes cyfyngiadau ar eu symudiadau fel na allant ddefnyddio eu breichiau a’u coesau i gydbwyso (e.e. defnyddio baglau penelin)
Gall cael cwymp fod yn frawychus iawn a gall gael effaith fawr ar ba mor ddiogel y mae rhywun yn teimlo yn ei gartref ei hun. Gallant achosi i berson golli ei hyder a phan fydd hyn yn digwydd, gall pobl fynd i’w cragen a rhoi’r gorau i wneud gweithgareddau a oedd yn dod â phleser iddynt. Yn anffodus, gall hyn eu gwneud nhw’n fwy tebygol o gwympo eto oherwydd gallent fod yn llai actif a cholli’r cryfder yn eu cyhyrau neu symudiad yn eu cymalau.
Y newyddion da yw bod yna bethau y gallwch chi eu gwneud nawr i leihau eich risg o gwympo!
Cadwch yn actif
Gall ymarfer corff rheolaidd leihau eich risg o gwympo gan ei fod yn cadw eich cyhyrau’n gryf, eich cymalau’n symudol a’ch calon a’ch ysgyfaint yn iach.
Gall fod yn unrhyw weithgaredd – o fynd am dro i’r siop i fynychu eich campfa leol ar gyfer sesiynau cadw’n heini neu Tai Chi. Y peth pwysig yw gwneud rhywbeth.
Mae gwneud gweithgaredd ‘goddef pwysau’, lle rydych chi’n goddef pwysau eich corff drwy eich traed a’ch coesau, yn dda ar gyfer iechyd esgyrn.
Os ydych chi’n newydd i ymarfer corff, mae gan y Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapi (CSiFf) rywfaint o wybodaeth i’ch helpu i ddechrau arni, gyda chwe ymarfer i’ch helpu i symud yn eich blaen yn bwyllog
Mae gan Age UK adnoddau gwych i’ch helpu i ddechrau symud
Mae Dewisiadau’r GIG yn cynnig gwybodaeth am ba mor actif y dylech fod a dolenni i fideos ymarfer corff ac awgrymiadau ffitrwydd am ddim
Mae’n bosibl y bydd gan eich cymuned leol grwpiau y gallech ymuno â nhw i roi cymorth wrth i chi gynyddu eich gweithgarwch Cymunedau lleol
Bwyta ac yfed yn dda
Mae angen egni arnoch o fwyd da i gadw’ch cryfder i fyny a chadw’n actif. Bydd peidio ag yfed digon yn eich dadhydradu, a fydd yn cynyddu eich risg o gwympo. Mae bwyta’n dda hefyd yn ffordd allweddol o reoli iechyd esgyrn a lleihau’r risg o osteoporosis. Os oes gennych osteoporosis, rydych mewn perygl mawr o dorri asgwrn os byddwch yn cwympo.
Gall yfed alcohol arwain at golli cydsymudiad a chynyddu’r risg o gwympo. Gall yfed gormod hefyd gyfrannu at ddatblygu osteoporosis.
Y Gymdeithas Osteoporosis Frenhinol
Diffyg maeth
Mae diffyg maeth yn gyffredin ac mae’n cael ei achosi gan ddeiet annigonol, diffyg chwant bwyd neu anhawster yn amsugno maetholion o fwyd. Mae llawer o resymau pam y gallai hyn ddigwydd, gan gynnwys arhosiad diweddar yn yr ysbyty, cyflwr iechyd hirdymor, diffyg symudedd, incwm isel, profedigaeth neu arwahanrwydd cymdeithasol. Yr arwydd mwyaf cyffredin y gallech fod mewn perygl o ddiffyg maeth yw colli pwysau’n anfwriadol dros y 3-6 mis diwethaf.
Mae BAPEN wedi datblygu offeryn sgrinio syml y gallwch ei ddefnyddio ochr yn ochr â chyngor i’w ddilyn os ydych mewn perygl o ddiffyg maeth.
BAPEN
Gofalwch am eich llygaid a’ch clustiau
Wrth i ni fynd yn hŷn, mae ein golwg yn newid ac efallai y bydd ein clyw’n dirywio. Mae’n bwysig iawn monitro hyn, gan fod eich golwg yn bwysig i weld yn glir ac osgoi unrhyw rwystrau. Gall newidiadau yn ein clyw ein gwneud yn ansefydlog ar ein traed ac yn benysgafn.
Os sylwch ar unrhyw newidiadau, trefnwch apwyntiad i gael prawf llygaid gyda’ch optegydd lleol neu os oes gennych broblemau clyw, siaradwch â’ch meddyg teulu.
Rheoli eich meddyginiaethau
Wrth i chi fynd yn hŷn, efallai y bydd angen i chi gymryd un neu fwy o feddyginiaethau ar gyfer cyflwr hirdymor. Gall rhai meddyginiaethau wneud i chi deimlo’n benysgafn. Gallwch hefyd deimlo’n benysgafn neu’n sâl os na fyddwch yn cymryd meddyginiaethau ar amser, yn rhoi’r gorau i gymryd meddyginiaethau’n sydyn neu’n cymryd gormod. Oherwydd hyn, mae’n bwysig eich bod yn deall pam rydych yn cymryd eich meddyginiaeth a phryd y dylech ei chymryd.
Os ydych yn cael problemau gyda rheoli eich meddyginiaeth neu os gwelwch fod eich meddyginiaeth yn gwneud i chi deimlo’n benysgafn neu’n ansefydlog, mae’n bwysig eich bod yn trafod hyn gyda’ch fferyllydd lleol yn eich fferyllfa leol neu’ch meddyg teulu. Efallai y bydd meddyginiaethau amgen sy’n addas i’ch corff a gwahanol ffyrdd o gyflwyno’ch meddyginiaethau i sicrhau eich bod yn eu cymryd ar yr adeg gywir ac yn y drefn gywir.
Mae gan Age UK ganllawiau ar gael y gorau o’ch meddyginiaethau
Mae gan Dewisiadau’r GIG wybodaeth am wahanol fathau o feddyginiaeth a sut mae meddyginiaeth yn dod ar gael
Bwrw llygad beirniadol dros eich tŷ
Mae nifer o bethau y gallwch eu gwneud i wella eich diogelwch gartref.
- Tacluswch annibendod a pheryglon baglu fel ceblau estyn, rhwystrau drysau mawr, pentyrrau o gylchgronau ac ati
- Mopiwch ollyngiadau cyn gynted ag y byddant yn digwydd i osgoi llithro nes ‘mlaen
- Defnyddiwch fatiau di-lithro yn yr ystafell ymolchi a gripiau rygiau ar garpedi. Os yw’n bosibl, symudwch y rygiau o’r neilltu yn gyfan gwbl.
- Ffitiwch reiliau bach yn y bath, cawod ac ar gyfer y toiled
- Gwnewch yn siŵr bod eich ystafelloedd a’ch coridorau wedi’u goleuo’n dda – defnyddiwch olau nos os oes angen i chi godi’n rheolaidd yn ystod y nos i ofalu am berthynas neu fynd i’r toiled
I gael help neu wybodaeth am ymataliaeth, cyfeiriwch at wasanaeth ffisiotherapi Iechyd Pelfig y Bwrdd Iechyd
Mae gan Age UK ganllawiau defnyddiol ar newidiadau syml i’ch cartref y gallech eu hystyried
Adolygwch eich cwpwrdd dillad
- Gwisgwch sliperi neu esgidiau sy’n ffitio’n dda, sydd â grip da ac sy’n cefnogi’r sawdl a’r pigwrn
- Ceisiwch osgoi eitemau o ddillad sy’n llusgo y tu ôl i chi neu sgertiau/cotiau hir a all gael eu dal o dan eich traed wrth gerdded i fyny ac i lawr grisiau
- Ceisiwch ddefnyddio gwregysau neu fresys i gadw dillad yn eu lle
- Peidiwch â cherdded mewn sanau neu deits ar loriau llithrig
- Dysgwch fwy am Esgidiau
Trefnwch ymlaen llaw
- Oes wir angen i chi ddefnyddio ysgol i gyrraedd gwpwrdd uchel?
- Symudwch gyllyll a ffyrc, llestri neu offer rydych chi’n eu defnyddio’n rheolaidd i leoliad sy’n golygu nad oes rhaid i chi blygu ac ymestyn i gael mynediad iddo
- Gofynnwch am help i symud dodrefn a bocsys neu trefnwch i wneud tasgau garddio, addurno’r cartref neu lanhau a allai fod yn beryglus gyda pherson arall
Gwasanaethau Cwympiadau
Mae’r Gwasanaeth Atal Cwympiadau yn darparu rhaglen asesu ac ymyriadau gydgysylltiedig ar gyfer pobl oedrannus sydd wedi cwympo, sy’n poeni am gwympo neu sydd â phryderon am eu cydbwysedd. Gallwch gael eich cyfeirio at y gwasanaeth cwympo gan eich meddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol. Bydd y Nyrs/Therapydd Cwympiadau yn sicrhau bod pobl sy’n cael eu cyfeirio atynt yn cael yr Asesiad Risg Aml-Ffactor mwyaf priodol ac amserol yn eu cartref eu hunain.
Bydd y Tîm Cwympiadau’n adolygu:
- Meddyginiaeth
- Ymataliaeth, maeth, hydradiad, poen
- Cydbwysedd, osgo, esgidiau, trosglwyddiadau a cherdded
- Pwysedd gwaed yn gorwedd/eistedd/sefyll
- Ffactorau risg osteoporosis/hanes o dorri esgyrn
- Golwg, clyw, dryswch, colli cyswllt â’r amgylchedd
- Peryglon amgylcheddol
Mewn rhai achosion, cyfeirir pobl at Glinig Cwympiadau. Clinig arbenigol dan arweiniad meddyg ymgynghorol yw hwn, sy’n cynnwys:
Asesiadau meddygol a diagnosteg
- Adolygiad o’ch meddyginiaeth
- Asesiad Cydbwysedd ac Osgo Uwch
- Atgyfeiriadau arbenigol
I gael gwybod mwy am y gwasanaeth Eiddilwch, darllenwch dudalen Gwasanaethau Cymunedol BIPAB: Eiddilwch – Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (nhs.wales)
Dolenni a gwybodaeth ychwanegol
Osgoi baglu a chwympo gartref
Atal
Osgoi cwymp
AskSARA is a web-based resource that may be able to provide additional information and support on your home, getting out and about and support with medications and symptoms that increase you risk of falls
ENGLISH















