Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (BIPAB) yn cydweithio â’r ymddiriedolaethau hamdden a thimau’r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS) sy’n ffurfio dalgylch BIPAB. Rydym yn gweithio gyda’n gilydd mewn partneriaeth i ddarparu opsiynau ymarfer corff ac adsefydlu ychwanegol.

Mae Good Boost yn rhaglen sydd wedi’i chynllunio i helpu ac annog pobl i fynd yn ôl i wneud ymarfer corff ar ôl anaf neu baratoi a chael adferiad ar ôl llawdriniaeth orthopaedig fel clun a phen-glin newydd. Mae Good Boost yn helpu pobl i fod yn egnïol ac i wneud ymarfer corff mewn dŵr ac ar dir. Mae Good Boost wedi’i gynllunio i helpu pobl sydd â phryderon esgyrn, cyhyrau neu gymalau. Yn aml, mae pryderon esgyrn, cyhyrau a chymalau yn cael eu grwpio gyda’i gilydd ac fe’u gelwir yn bryderon ‘cyhyrysgerbydol’.

Wedi’i ddatblygu gan arbenigwyr cyhyrysgerbydol a’i bweru gan ddeallusrwydd artiffisial, mae Good Boost yn cael ei gyflwyno ar gyfrifiaduron llechen unigol i ganiatáu i bobl ddatblygu eu hymarfer corff ar eu cyflymder eu hunain. Mae hyn yn cefnogi hunanreolaeth o gyflyrau cyhyrysgerbydol. Cefnogir Good Boost gan elusennau cyhyrysgerbydol fel Arthritis Action a Arthritis UK. Mae Good Boost yn rhaglen ymarfer corff bwrpasol wedi’i theilwra. Gellir rhaglennu sesiynau unigol i ddwysedd a hyd o ddewis yr unigolyn. Esbonnir y gweithgareddau neu’r ymarferion ar y cyfrifiaduron llechen mewn 2 ffordd – cyfarwyddyd cam wrth gam ochr yn ochr â fideo.

Good Boost

Mae Good Boost yn ffordd ragweithiol o gael a chadw’ch cymalau i symud mewn ffordd llai heriol gyda gwobrwyon uchel. Mae Good Boost yn addas i unrhyw un sy’n teimlo y byddent yn elwa o ddefnyddio rhaglen sy’n seiliedig ar ddŵr ac sy’n hyderus i fod yn y dŵr. Caiff sesiynau eu harwain gan ddefnyddio cyfrifiadur llechen gwrth-ddŵr i roi cyfarwyddyd i gleifion yn ystod eu rhaglen triniaeth ymarfer corff.

Mae ymarfer corff yn cael llawer o effeithiau cadarnhaol a gall helpu i:

  • Gynyddu eich ffitrwydd cardiofasgwlaidd
  • Cynyddu ystod symudiad eich cymalau a hyblygrwydd eich cyhyrau
  • Gwella cryfder cyhyrau
  • Lleihau lefelau eich poen
  • Gwella eich cydbwysedd a’ch cydsymud
  • Gwella eich hwyl a’ch iechyd meddwl

Gall ymarfer corff mewn dŵr:

  • Dynnu pwysau oddi ar eich cymalau poenus, gan ei gwneud hi’n haws symud
  • Helpu yn dilyn llawdriniaeth cyn i ymarferion goddef pwysau ar y tir gael eu presgripsiynu

Mae timau hamdden ar draws BIPAB yn cynnig amrywiaeth o amseroedd a lleoliadau. Gallwch archebu mewn sesiwn grŵp, gyda phobl yn ymarfer corff i lefel i ddiwallu eu hanghenion eu hunain neu gallwch fynychu’n unigol a gweithio ar eich pen eich hun, gan ddilyn y cyfarwyddiadau ar y cyfrifiadur. Bydd staff canolfannau hamdden yn gallu eich cefnogi a’ch helpu i gofrestru, dechrau arni a symud ymlaen ar eich cyflymder eich hun.

Os oes gennych ddiddordeb mewn darganfod mwy am sut y gallai Good Boost eich helpu, cysylltwch â’ch tîm hamdden lleol drwy’r dolenni isod yn gofyn am wybodaeth am Good Boost.


SYLWER

Mae’r amseriadau hyn yn destun newid yn ystod gwyliau’r ysgol –
Cysylltwch â’r timau hamdden i gael cadarnhad

Gwybodaeth ddefnyddiol

  • Mae angen cyfeiriad e-bost gweithredol i gofrestru ar gyfer cyfrif
  • Mae angen cofrestru cyn cael mynediad i’r sesiwn gyntaf
  • Mae angen cadw lle mewn sesiynau trwy wneud cais am aelodaeth canolfan hamdden
  • Codir tâl am sesiynau – mae’r prisiau’n dibynnu ar yr ymddiriedolaeth hamdden a’r math o aelodaeth

Gwybodaeth

Menu