Deiet iach a chytbwys a hydradu da
Mae yfed yn iach, gan gynnwys rheoli alcohol, yn rhan o ddeiet iach a chytbwys.
Mae alcohol wedi’i nodi fel ffactor risg iechyd cyhyrysgerbydol gan fod defnydd gormodol o alcohol yn cynyddu’r siawns o anaf a, dros amser, yn achosi newidiadau i’ch corff.
Mae deiet iach a chytbwys a hydradu da hefyd yn bwysig er mwyn hyrwyddo iechyd corfforol a meddyliol da cyffredinol. Yn aml, mae unigolion sy’n cael trafferth cadw at newidiadau cadarnhaol yn eu ffordd o fyw, fel argymhellion ymarfer corff a/neu adsefydlu, yn elwa o welliannau bach iawn o ran eu deiet a hydradu priodol.
Dadhydradu
Mae’n hanfodol eich bod yn yfed digon i gadw eich corff mewn cyflwr da. Wedi’r cyfan, mae rhwng 50-75% o gorff oedolyn yn ddŵr! Mae’r rhif penodol yn dibynnu ar eich oedran, pwysau a rhyw. Mae dŵr yn hanfodol ar gyfer iechyd ac mae’n angenrheidiol ar gyfer nifer o swyddogaethau’r corff:
- Swyddogaeth celloedd y corff
- Gwaredu gwastraff
- Rheoleiddio eich tymheredd
Dadhydradu yw pan mae eich corff yn colli mwy o hylifau nag y mae’n eu cael.
Mewn rhai amgylchiadau, fel os ydych chi’n sâl gyda chwydu/dolur rhydd, wedi bod yn yr haul yn rhy hir, wedi chwysu gormod ar ôl ymarfer corff, wedi yfed gormod o alcohol neu os oes gennych gyflyrau meddygol penodol, rydych mewn mwy o berygl o ddadhydradu.
Yr ymennydd a’r arennau sydd â’r lefelau uchaf o ddŵr yn eich corff. Os byddwch yn dadhydradu, gall achosi problemau gyda theimladau o ddryswch, pendro a blinder. Mae gennych fwy o risg o ddatblygu problemau gyda’ch cyhyrau a’ch tendonau os ydych wedi dadhydradu. Gall hyn ddod i’r amlwg ar ffurf crampiau neu straenio cyhyrau.
Mae gan Gymdeithas Ddeieteg Prydain daflen ffeithiau ddefnyddiol am hylifau (dŵr a diodydd) os hoffech gael gwybod mwy.
Os hoffech gael copi printiedig o’r wybodaeth uchod, defnyddiwch y ddolen hon
Alcohol
Mae alcohol yn ffactor risg o ran poen esgyrn, cyhyrau a chymalau. Mae nifer o ffyrdd y gall alcohol effeithio ar y corff:
- Gall alcohol wneud i ni anafu ein hunain drwy ddisgyn.
- Mae ymchwil wedi dangos y gall alcohol gynyddu lefelau hormonau penodol yn y corff sy’n arafu ffurfiant esgyrn ac yn tynnu’r calsiwm allan o’r esgyrn. Mae hyn yn arafu datblygiad ac adferiad esgyrn. Yn yr hirdymor, gall hyn gyfrannu at osteoporosis neu gyflyrau esgyrn brau eraill. Gall alcohol hefyd arafu adferiad a thwf meinwe cyhyrau.
- Gall alcohol wneud i ymarfer corff a gweithgarwch deimlo’n anoddach nag y dylai fod drwy effeithio ar eich pwysedd gwaed a chyfradd y galon.
- Mae yfed llawer alcohol a/neu yfed yn rheolaidd yn ei gwneud yn anoddach gwneud dewisiadau eraill sy’n cael effaith gadarnhaol ar iechyd eich esgyrn, cyhyrau a chymalau, fel colli pwysau neu ymrwymo i ymarfer corff yn rheolaidd.
Os ydych chi’n yfed cymaint â 14 uned yr wythnos yn rheolaidd, mae’n well lledaenu eich yfed yn gyfartal dros 3 diwrnod neu fwy. Os ydych chi’n yfed yn drwm unwaith neu ddwywaith yr wythnos, rydych chi’n cynyddu eich risg o farw o salwch hirdymor neu ddamweiniau ac anafiadau.
Mae’r risg o ddatblygu amrywiaeth o broblemau iechyd yn cynyddu’r mwyaf y byddwch yn ei yfed yn rheolaidd.
Os ydych chi’n dymuno lleihau faint rydych chi’n ei yfed, ceisiwch gael sawl diwrnod di-ddiod bob wythnos.
Os ydych chi eisiau gwybod mwy am alcohol neu helpu gwasanaethau:
Os ydych chi’n teimlo yr hoffech chi siarad â rhywun am eich yfed, cysylltwch â Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Gwent
ENGLISH















