Gall ein hiechyd meddwl a sut rydym yn meddwl, teimlo ac ymddwyn mewn perthynas â’n cyhyrau, cymalau ac esgyrn fod yn rhan bwysig o adferiad.
Sut galla i helpu fy hun?
Ceir tystiolaeth fod ymarfer corff a gweithgarwch corfforol rheolaidd yn helpu rhai problemau iechyd meddwl cyffredin fel gorbryder, hwyliau isel ac iselder.
Ewch i’r adran Gweithgarwch ac Ymarfer Corff i ddysgu mwy.
Os ydych chi’n teimlo mai eich iechyd meddwl yw’r prif ffactor o ran sut rydych chi’n ymdopi ac yn ymddwyn mewn perthynas â’ch problem cyhyrau, cymalau ac esgyrn, ystyriwch gysylltu â’ch meddyg teulu i gael y cymorth a’r gwasanaethau sydd ar gael.
Os oes angen cymorth a chefnogaeth bellach arnoch gan wasanaeth therapi BIPAB, gallwch fod yn dawel eich meddwl eu bod wedi’u hyfforddi i nodi a rheoli pryderon iechyd meddwl sy’n gysylltiedig â chyhyrau, cymalau ac esgyrn yn gyffredinol. Mae’n bwysig eich bod yn cydweithio â’ch gweithiwr gofal iechyd proffesiynol i wella eich hunanreolaeth a chyflawni’r canlyniadau rydych chi eu heisiau.
I gael rhagor o wybodaeth a chefnogaeth gydag iechyd meddwl, ewch i wefan iechyd meddwl BIPAB:
Os hoffech gael copi printiedig o’r wybodaeth uchod, defnyddiwch y ddolen hon
ENGLISH
















