1. Hafan
  2. OCG
  3. OCG – Opsiynau, Cyngor, Gwybodaeth

OCG – Opsiynau, Cyngor, Gwybodaeth

OAK - Options Advice Knowledge logo

Mae sesiynau OAK yn cael eu cynnal fel sesiynau anghysbell trwy Microsoft Teams ac wyneb yn wyneb mewn lleoliadau penodol – cysylltwch â ni i ddarganfod mwy

Beth yw OCG?

Gall llawer o gyflyrau iechyd, er nad ydynt yn bygwth bywyd ac nad oes gennym wellhad iddynt eto, gael effaith hirdymor ar ein bywydau, megis Osteoarthritis y Ben-glin a Phoen Cefn Isaf.

OAK - Options Advice Knowledge logo

Ar gyfer y rhan fwyaf o gyflyrau hirdymor mae ‘na driniaethau sy’n effeithiol o ran lleihau symptomau a gwella ansawdd bywyd.  Er enghraifft, gall triniaethau fel esgidiau priodol, rheoli pwysau neu ddeall eich meddyginiaeth olygu eich bod yn cael llai o boen yn y cymalau os oes gennych Osteoarthritis y Ben-glin neu Boen Cefn Isaf – gallwch felly wneud mwy o bethau.  Mae llawer o’r triniaethau hyn yn cynnwys newidiadau syml i ffordd o fyw, tra bod eraill yn gofyn am fwy o ymrwymiad a chefnogaeth.  Mae yna hefyd lawer o wasanaethau a all gynnig y cymorth y gallai fod ei angen arnoch, fodd bynnag, gall dod o hyd i’r driniaeth gywir a’r gwasanaeth cywir fod ychydig yn gymhleth weithiau.

Yma yn OCG, credwn y dylai pobl sy’n byw gydag Osteoarthritis y Ben-glin a Phoen Cefn Isaf, y gall y ddau effeithio ar bobl yn yr hirdymor, gael y cyfle i fod yn rhan o benderfyniadau ynghylch pa driniaethau a pha wasanaethau sydd fwyaf addas iddynt.  Rydym wedi creu gwasanaeth sy’n cynnig addysg am Osteoarthritis y Ben-glin a Phoen Cefn Isaf i’ch helpu i ddeall beth ydyn nhw a beth y gallwch ei wneud i’w rheoli.  Rydym wedi creu rhai adnoddau i’ch helpu i ddysgu am yr opsiynau sydd ar gael i chi ac i ddangos i chi beth sydd ar gael yn eich cymuned leol a’ch gwasanaeth iechyd lleol.  Rydym wedi bod yn cynnal sesiynau ledled Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ers sawl blwyddyn bellach ac mae adborth gan bobl sy’n mynychu wedi bod yn gadarnhaol iawn, felly rydym yn gobeithio y gall yr adnodd ar-lein hwn helpu hyd yn oed mwy o bobl.

Felly, porwch drwy’r safle, gwyliwch y fideos, dewch o hyd i’r adnoddau sydd eu hangen arnoch a rhowch wybod i ni beth ry’ch chi’n feddwl.

Ffôn: 01495 768645
E-bost: 
atgyfeiriadau OCG

Gwybodaeth
Menu