Mae sesiynau OAK yn cael eu cynnal fel sesiynau anghysbell trwy Microsoft Teams ac wyneb yn wyneb mewn lleoliadau penodol – cysylltwch â ni i ddarganfod mwy

Beth yw OCG Pen-glin?

Yma ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan rydym yn cynnig sesiwn o’r enw Pen-glin OCG (Opsiynau, Cyngor, Gwybodaeth) sydd â’r nod o wella dealltwriaeth a rheolaeth o osteoarthritis y ben-glin.   Mae sesiynau OCG Pen-glin wedi’u datblygu gyda Meddygon Teulu, Llawfeddygon Orthopedig, Ffisiotherapyddion a phobl fel chi, sydd ag osteoarthritis y ben-glin.

OAK - Options Advice Knowledge logo

Darperir y sesiwn grŵp 90-munud gan ffisiotherapyddion sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig mewn cyfleusterau cymunedol ledled y bwrdd iechyd, felly dylai fod un yn agos atoch chi.  Maent yn cynnig cyfle i bobl sydd wedi’u diagnosio ag osteoarthritis y ben-glin  ddysgu mwy am y cyflwr a gwahanol ffyrdd o reoli’r symptomau sy’n gysylltiedig ag ef yn effeithiol.

Rydym i gyd yn gwerthfawrogi bod pobl yn wahanol; rydym yn mwynhau gwahanol bethau ac mae gennym nodau gwahanol yn ein bywydau.  Yn yr un modd, mae osteoarthritis y ben-glin yn effeithio ar bobl mewn gwahanol ffyrdd.  Felly mae dod o hyd i’r triniaethau neu’r cynlluniau rheoli cywir sy’n addas i’ch anghenion yn bwysig.

Dyna pam, yn OCG, y credwn y dylech fod wrth wraidd y penderfyniad ynghylch sut rydych am reoli eich pen-glin arthritig.   Gwyddom fod pobl sy’n ymwneud â’r penderfyniadau hyn yn fwy tebygol o gymryd rhan yn y driniaeth a chael canlyniad mwy llwyddiannus.

Mae OCG Pen-glin yn cynnwys rhannu gwybodaeth a phrofiadau a fydd yn eich helpu i wneud y penderfyniadau hynny.  Rydym yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am osteoarthritis, y ffeithiau a’r anwireddau.  Rydym hefyd yn cyflwyno’r wyddoniaeth, sy’n dweud wrthym pa driniaethau sy’n ffyrdd diogel ac effeithiol o reoli osteoarthritis y ben-glin.  Mae gwybodaeth hefyd am ba wasanaethau sydd ar gael yn lleol i’ch helpu.  Yn bwysig, gallwch chi ac eraill gyflwyno’ch profiadau eich hun o osteoarthritis y ben-glin, sut mae’n effeithio arnoch chi a’r hyn sydd wedi bod yn effeithiol (neu beidio) yn eich amgylchiadau.

Erbyn diwedd sesiwn OCG, dylech gael gwell dealltwriaeth o’r cyflwr, yr hyn rydych am ei wneud i’w reoli a sut i fynd ati i gael yr help sydd ei angen arnoch.

Beth yw osteoarthritis

Y ben-glin yw’r cymal mwyaf ac un o’r rhai mwyaf cymhleth yn y corff dynol.  Yn ystod gweithgareddau syml mae’n goddef llwythi mawr gan ei fod yn cario pwysau’r corff.  Mae cymal y ben-glin wedi’i siapio i wrthsefyll y grymoedd hyn ac mae’n elwa o gefnogaeth cyhyrau mwyaf y corff sy’n rhannu ac yn amsugno’r llwythi hyn wrth reoli symudiad.  O fewn y ben-glin mae haen o gartilag, stwff llithrig sgleiniog gwyn sy’n leinio ac yn amddiffyn yr asgwrn.  Mae hyn yn helpu i greu symudiad llyfn ac amsugno’r grymoedd hyn.

Mae osteoarthritis yn dechrau pan fydd difrod i’r cartilag.  Y ffactorau mwyaf cyffredin sy’n achosi hyn yw anaf blaenorol, gordewdra ac oedran.  Mae’r cartilag yn mynd yn raddol deneuach ac yn colli’r gallu i amsugno ac amddiffyn.  Nid yw’r cymal yn symud mor esmwyth.  Mae’r asgwrn o dan fwy o straen, ond mae’n ymateb drwy dyfu’n fwy trwchus ac yn lletach fel y gall ddal i ysgwyddo’r baich.  Gall leinin y cymal chwyddo i gynhyrchu mwy o hylif i geisio cadw’r cymal wedi’i iro.  Gall y capsiwl a’r ligamentau fynd yn drwchus i geisio cryfhau’r cymal.   Felly mae osteoarthritis yn gyflwr rhannol lidiol a rhannol atgyweiriol.  Mewn llawer o achosion mae’r gwaith atgyweirio yn weddol lwyddiannus ac nid yw’r newidiadau’n achosi llawer iawn o boen nac anabledd.

Gall osteoarthritis achosi amrywiaeth o symptomau, ond poen a stiffrwydd yw’r rhai mwyaf cyffredin.  Mae poen fel arfer yn waeth wrth symud ac ar ddiwedd y dydd ac fel arfer mae’n lleddfu gyda gorffwys, ond mae’r cymal yn aml yn stiffio pan nad yw’n cael ei ddefnyddio.

Felly, rydyn ni nawr yn gwybod beth yw osteoarthritis, felly beth y gellir ei wneud yn ei gylch?

Er nad oes gwellhad i osteoarthritis ar hyn o bryd, mae llawer o driniaethau a all gynnig rhyddhad sylweddol o’r symptomau, gan eich helpu i reoli’r cymal a’i gadw i weithio yn y dyfodol.  Nid yw’r un o’r triniaethau hyn yn gallu gwella osteoarthritis, ond maent i gyd yn lleddfu poen a stiffrwydd, sy’n eich galluogi i wneud mwy o’r hyn rydych chi’n ei fwynhau.

Ni allwn ddweud pwy fydd yn ymateb orau i bob triniaeth, felly chi sydd i benderfynu beth fyddai’n eich helpu chi cyn rhoi cynnig arno.

Rydym wedi crynhoi’r triniaethau yn y pyramid isod.  Mae’r triniaethau sy’n helpu’r nifer fwyaf o bobl ac sy’n cario’r risg isaf ar y gwaelod, tra bod y risgiau uwch, i’w defnyddio pan nad yw’r lleill wedi helpu, ar y brig.  Rydym yn gobeithio y bydd defnyddio’r pyramid hwn yn eich helpu i ddeall yr opsiynau ac yn eich helpu i benderfynu pa rai fyddai orau i chi.

I ennill lle ar ein pyramid, rhaid i driniaethau gael eu profi’n briodol a phrofi eu bod yn gweithio.  Rydym wedi defnyddio nifer o ganllawiau clinigol rhyngwladol i greu’r pyramid, felly gallwch fod yn dawel eich meddwl fod y rhain yn ymyriadau diogel sy’n gweithio i’r rhan fwyaf o bobl.

Felly, sut mae penderfynu beth rydych chi am ei wneud?

Hoffem fynd â chi drwy’r broses o sut y gallech wneud y penderfyniad hwnnw.  Mae’r rhan fwyaf o bobl yn ystyried pa mor wael yw’r clefyd neu’r difrod.  Gallwn fesur hyn gyda phelydr-X, ond nid yw graddfa’r arthritis bob amser yn gysylltiedig â lefel y boen.

Mae yna ddangosydd llawer pwysicach –  y symptomau rydych chi’n eu teimlo, y boen, y chwyddo, y gweithgareddau nad ydych chi’n gallu eu gwneud yn iawn.   Dim ond chi sy’n gwybod hyn, mae’n rhywbeth unigol iawn ac, yn bwysig, nid yw bob amser yn gysylltiedig â graddfa’ch arthritis.

Felly, hyd yn oed os yw eich pelydr-X yn rhoi canlyniadau gwael, os gallwch chi reoli’r symptomau gan ddefnyddio’r triniaethau hyn, gallwch chi deimlo’n well, lleihau’r boen a mwynhau ansawdd bywyd gwell.  Dyna pam eu bod nhw’n cael eu hargymell i bawb.  Dyw hi byth yn rhy hwyr i roi cynnig arnyn nhw.

Mae pob un ohonoch yn wahanol, ac felly dylid gwneud penderfyniad ar sail yr hyn sy’n iawn i chi.

A allai eich pwysau fod yn rhoi mwy o straen ar y ben-glin?  Gwyddom y gall colli dim ond 5% o’n pwysau leihau poen wrth gerdded.

A yw eich cyhyrau’n methu â chefnogi eich pen-glin yn effeithiol?  Gwyddom fod ymarferion cryfhau yn ffordd bwerus o leihau poen a chynyddu’r hyn y gallwch ei wneud.

Ydych chi’n rhywun a allai elwa o wisgo esgidiau gwahanol neu fres pen-glin i gefnogi a chlustogi’r ben-glin?

Neu ydych chi’n rhywun sydd wedi rhoi cynnig ar bopeth ac a fyddai nawr yn elwa o drafod gosod pen-glin newydd gyda llawfeddyg?

Mae rhagor o wybodaeth am yr holl opsiynau hyn ar y wefan, neu dewch draw i sesiwn OCG Pen-glin i gael gwybod mwy.

 

Gweithgarwch ac Ymarfer Corff

Gweithgarwch ac Ymarfer Corff – Mark Hodgson – Fideo

 

Gwyddom mai ymarfer corff yw un o’r dulliau mwyaf pwerus o helpu pobl i reoli osteoarthritis y ben-glin.

Fodd bynnag, i lawer o bobl ag osteoarthritis, nid yw hyn bob amser yn gwneud synnwyr.  Mae’n gyffredin meddwl am y cyflwr fel proses dreulio, ac felly mae defnyddio’r ben-glin yn fwy yn swnio fel syniad gwael.  Fodd bynnag, fel y dangoswyd yn y fideo, mae OA yn gymysgedd o ymateb dirywiol ac iachaol – mae llawer o’r meinweoedd yn cryfhau, yr esgyrn yn tewhau a llydanu, a’r ligamentau a’r capsiwl yn mynd yn fwy trwchus.  Mae hyn yn golygu y gall defnyddio’r ben-glin, gan gryfhau’r cyhyrau ategol, helpu gyda’r gwellhad a gwella symptomau fel poen a stiffrwydd.

Gwyddom fod ymarferion syml i gryfhau cyhyrau’r goes neu eich calon a’ch ysgyfaint yn arwain at ostyngiad sylweddol a rhagweladwy mewn poen, gan wella eich gallu i wneud pethau.

Felly beth ydyn ni’n ei olygu wrth ymarfer corff?  Wel, unrhyw beth, a dweud y gwir.  Cyn belled â’i fod yn gweithio cyhyrau’r coesau neu eich calon a’ch ysgyfaint, neu’r ddau os oes modd, bydd yn helpu eich poen pen-glin.  Mae’n bwysig cael cydbwysedd, a ‘bob hyn a hyn’ yw’r ffordd orau o gychwyn arni fel arfer.

Mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n ymarfer corff yn gwneud hynny’n rheolaidd gan eu bod yn ei fwynhau ac yn aml am ei fod yn dod law yn llaw â sefyllfa gymdeithasol neu ffrindiau y maent yn mwynhau treulio amser gyda nhw.  Felly mae’n werth ystyried y pethau hyn.

Rydym wedi rhoi llawer o wybodaeth ar y wefan am gyfleusterau a grwpiau hamdden a allai eich helpu i ddod o hyd i rywbeth rydych chi’n ei fwynhau.

Un opsiwn i’ch helpu i ddod yn fwy hyderus i wneud ymarfer corff yw’r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff, neu NERS yn fyr.  Mae hwn ar gael ledled rhanbarth Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan.  Mae’n gynllun sy’n cael ei redeg gan y gymuned a gefnogir gan y rhan fwyaf o ganolfannau hamdden sy’n cael eu rhedeg gan gynghorau.  Mae’n darparu amrywiaeth o weithgareddau a mathau o ymarfer corff – mae rhywbeth i bawb.  I gael mynediad i’r cynllun, bydd angen i chi gael eich atgyfeirio gan eich meddyg teulu, ffisio neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall.  Mae cost fach hefyd i’r rhaglen.  Byddai angen ymrwymo i fynychu ddwywaith yr wythnos am 16 wythnos.  Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan NERS.

Mae ffisiotherapi yn opsiwn arall i helpu gyda’ch symptomau OA.  Mae ffisiotherapyddion yn arbenigwyr mewn symudiad dynol a sut y gall poen neu glefyd effeithio ar hyn.  Gall ffisio asesu eich pen-glin a sut mae’n symud, a gwneud argymhellion ar sut i leihau rhai o’ch symptomau.  Bydd yr union opsiynau a ddefnyddir yn amrywio yn dibynnu ar y person sydd ag OA, a’r hyn y mae’r ffisio yn ei ganfod.  Bydd yr opsiynau hyn yn cael eu trafod gyda chi ar adeg eich asesiad.

Bydd ffisiotherapyddion bron bob amser yn argymell defnyddio ymarfer corff i adeiladu meinwe cyhyrol o amgylch y ben-glin a’r goes.  Gallant eich helpu i ddod o hyd i’r opsiwn cywir i chi.  Mae gennym ddosbarth ymarfer corff yn BIPAB o’r enw DIANC Poen Pen-glin. Gofynnir i chi fynychu sesiwn ymarfer corff 1 awr ddwywaith yr wythnos am 6 wythnos, felly cyfanswm o 12 sesiwn.  Dangoswyd bod ymuno â’r dosbarthiadau hyn yn lleihau poen ac yn gwella gweithrediad, nid dim ond tra byddwch chi’n cymryd rhan yn y sesiynau, ond am nifer o flynyddoedd wedyn hefyd.  Mae DIANC Poen Pen-glin bellach ar gael ar y wefan DIANC neu drwy Ap Ffôn Symudol.

Mae rhai pobl yn teimlo’n ddigon hyderus i wneud ymarfer corff heb gymorth proffesiynol, a byddem yn cefnogi hyn yn llwyr.  Chi sydd i ddewis sut i ymarfer corff – ar eich pen eich hun, gyda ffrindiau, yn NERS neu gyda Ffisiotherapi.  Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Arthritis Research UK

Lyn, Claf OCG Pen-glin – Fideo

Helen, Claf OCG Pen-glin – Fideo

Lleddfu Poen

Poen yn aml yw’r prif reswm y mae osteoarthritis yn dod yn broblem.  Yn aml, gellir rheoli poen yn effeithiol gyda meddyginiaethau dros-y-cownter syml, er bod trafodaeth gyda’ch meddyg teulu neu fferyllfa yn bwysig cyn dechrau unrhyw feddyginiaethau newydd i sicrhau nad ydynt yn niweidiol i chi.  Mae opsiynau eraill hefyd – gall pecynnau gwres neu oer leddfu poen, a gellir defnyddio peiriant TENS hefyd ar y ben-glin fel ffordd o leihau poen heb feddyginiaethau.

Gosod Pen-glin Newydd

John Lloyd ydw i, llawfeddyg pen-glin ymgynghorol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Cymal y ben-glin yw’r cymal mwyaf yn y corff dynol, a’r un cymhlethaf mae’n siŵr.

Mae gwahanol ddulliau ar gael ar gyfer gosod pen-glin newydd sy’n anelu at amnewid y cymal arthritig, ond ni all yr un ohonynt efelychu pen-glin normal mewn gwirionedd.

Gosod pen-glin newydd yw’r opsiwn triniaeth olaf ar gyfer rheoli arthritis cam terfynol difrifol.    Llawdriniaeth lleddfu poen ydyw yn bennaf, sydd hefyd yn gobeithio gwella gweithrediad a symudedd.

Yn genedlaethol, gosodwyd 86,000 o bengliniau newydd yn 2013 gydag oedran cyfartalog y cleifion yn 70.

Byddai’r person delfrydol ar gyfer pen-glin newydd yn unigolyn oedrannus ffit, llawn cymhelliant, nad yw’n ysmygu gyda phwysau iach a diagnosis o arthritis cam terfynol.

Dylai’r boen a’r symptomau gyfateb i’r newidiadau pelydr-X, a dylid bod wedi rhoi cynnig ar bob opsiwn triniaeth arall.

Os cewch lawdriniaeth gallwch ddisgwyl aros yn yr ysbyty am 3 i 4 diwrnod.   Byddwch yn cael cymorth i godi o’r gwely a dechrau ymarfer eich cymal pen-glin cyn gynted â phosibl.

Bydd ffisiotherapydd yn dangos cyfres o ymarferion i chi ac yn eich helpu i ddechrau cerdded ar eich cymal newydd.  Er mwyn cyflawni’r canlyniad gorau posibl, mae’n bwysig iawn eich bod yn gweithio i gynyddu’r symudiad a chryfhau eich pen-glin drwy ddilyn yr ymarferion hyn a chyngor y ffisiotherapyddion.

Y nod yw cyflawni plygiad swyddogaethol yn y ben-glin fel eich bod yn gallu sefyll i fyny ac eistedd ar gadair a mynd i mewn ac allan o’ch gwely cyn mynd adref.

Mae gosod pen-glin newydd yn weithdrefn boenus.   Mae’n bwysig bod lefelau poen yn cael eu rheoli i alluogi ymarfer corff.  Yn y 6 wythnos gyntaf yn dilyn llawdriniaeth mae llawer o gleifion yn dweud eu bod yn difaru cael y llawdriniaeth.   Mae’r boen yn setlo’n araf ac mae’r cryfder yn dychwelyd wrth i’r ystod o symudiad yn y ben-glin gynyddu, ac mae patrymau cerdded yn dychwelyd i normal.    Gall gymryd hyd at flwyddyn i adfer gweithrediad arferol y ben-glin.   Mae dilyn cyngor ar leddfu poen, ymarfer corff ac ymarfer cerdded yn hanfodol ar gyfer y broses hon.

Mae gwybodaeth y Gofrestrfa Cymalau Genedlaethol yn dangos bod tua 5% yn cael llawdriniaeth adolygu 10 mlynedd ar ôl cael pen-glin newydd.   Mae hyn yn golygu, ar gyfer 5% o gleifion sy’n cael y llawdriniaeth, y gallai fod angen newid y ben-glin o fewn 10 mlynedd.   Mae’r risg yn haneru os ydych chi dros 75 oed ar adeg eich llawdriniaeth gyntaf ac yn dyblu os ydych chi o dan 55 oed – mewn geiriau eraill, po hynaf ydych chi wrth gael pen-glin newydd, y lleiaf tebygol fyddwch chi o angen llawdriniaeth bellach.

Eich cymal newydd cyntaf fydd eich un gorau, mae’n debyg, sy’n golygu bod unrhyw lawdriniaeth ail-wneud yn weithdrefn gymhlethach ac mae’r canlyniadau’n llai boddhaol.   Mae’r rhan fwyaf o bobl yn falch iawn o’u pen-glin newydd.   I rai pobl, nid yw’r ben-glin newydd newydd bob amser yn bodloni eu gobeithion a’u disgwyliadau nac yn lleddfu eu holl boen.   Mae nifer fach iawn o bobl yn difaru cael un o gwbl.   Yn anffodus mae’n amhosibl troi’r cloc yn ôl.

Mae’r canlyniad terfynol a boddhad yn seiliedig ar lawdriniaeth dechnegol gadarn ond, yn bwysicaf oll, rhaid cael disgwyliad realistig o’r hyn y gellir ei gyflawni a llawer iawn o gymhelliant a gwaith caled i adennill gweithrediad da.

Os hoffech drafod hyn ymhellach, gofynnwch i’ch meddyg teulu am atgyfeiriad.

Llawfeddyg OCG yn sôn am Osod Pen-glin Newydd – Fideo

Cleifion Llawdriniaeth Pen-glin OCG, Helen a Margaret – Fideo

Os oes gennych ddiddordeb o hyd mewn mynychu sesiwn OCG gallwch gysylltu â ni yma

Gwybodaeth Ychwanegol

Dolenni i wybodaeth bellach am OA y Ben-glin

Ynglŷn â’r wybodaeth hon | Gwybodaeth i’r cyhoedd | Osteoarthritis: gofal a rheolaeth | Canllawiau | NICE

Arthritis UK – Osteoarthritis y ben-glin

GIG – Triniaeth a chymorth

Cynllun Gwrthgyferbyniol Ymarfer Cenedlaethol  (NERS)

Mae gwefan Better Health – Healthier Families yn wych i deuluoedd gael mynediad at gyngor ffordd iach o fyw ac adnoddau am ddim.

Dewisiadau’r GIG – Colli Pwysau:  Mae gan y wefan hon wybodaeth ddefnyddiol am golli pwysau a rhaglen colli pwysau 12-wythnos ar-lein sy’n rhad ac am ddim.

Cymdeithas Ddeieteg Prydain:  Datblygwyd y wefan hon gan Gymdeithas Ddeieteg Prydain ac mae’n cynnwys cyngor gwych ar golli pwysau mewn ffordd iach.

Rydym hefyd yn gweithio gyda’r trydydd sector i ddarparu gwasanaethau ar gyfer iechyd a lles yn eich cymuned – GAVO.

I’r rhai nad ydynt wedi bod mor llwyddiannus ag yr oeddent am fod gyda’r dulliau hyn, mae’n bosibl y gallent gael mynediad i’r gwasanaeth rheoli pwysau oedolion lleol.  Rhaid i fynegai màs eich corff (BMI) fod yn 30 neu uwch.  Gall eich meddyg teulu weithio hyn allan neu gallwch fynd i wefan Dewisiadau’r GIG (dolen yn agor mewn ffenestr newydd) i ddefnyddio’r gyfrifiannell pwysau iach BMI.  Rhaid i chi allu ymrwymo i apwyntiadau rheolaidd neu sesiwn grŵp.  Gallwch gael rhagor o wybodaeth yn: Y Gwasanaeth Rheoli Pwysau.

Gwybodaeth
Menu