Gall poen, blinder, sgil-effeithiau meddyginiaethau y gallech fod yn eu cymryd, y symudiad sydd gennych yn eich cymalau, pa mor gryf yw eich cyhyrau neu sut rydych chi’n teimlo am eich corff herio eich perthnasoedd agos.

Gall hyn, yn ogystal â heriau gwaith/astudio, bywyd teuluol a chyllid, gael effaith fawr ar p’un a ydych chi’n teimlo bod gennych y gallu i gael perthynas agos, gyda neu heb ryw.

Gall problemau byrdymor neu hirdymor gyda’ch esgyrn, eich cyhyrau a’ch cymalau gael effaith ar y perthnasoedd sydd gennych a’ch bywyd rhywiol.

Siaradwch amdano

Gall trafod anwyldeb, rhyw a rhywioldeb achosi embaras, ond mae’n bwysig iawn.

Mae perthynas foddhaol (waeth pa mor fyr) yn dibynnu ar fod yn agored a gonest gyda’ch partner am sut rydych chi’n teimlo, yn gorfforol ac yn emosiynol.  Os byddwch yn eu cau allan neu os na fyddwch yn rhoi adborth iddynt ar yr hyn rydych yn ei feddwl a’i deimlo, gall roi straen ar y berthynas.  Efallai y bydd eich partner yn poeni am eich brifo neu, os nad ydych wedi bod yn gariadus gyda’ch gilydd am gyfnod, efallai y byddant yn teimlo nad ydych chi’n eu ffeindio’n ddeniadol neu’n poeni am eu hunanhyder.

Siaradwch â nhw am yr hyn sy’n teimlo orau a’r hyn rydych chi’n teimlo y gallwch ei wneud o ran graddau’r cyswllt rhyngoch chi a’r safleoedd y gallech roi cynnig arnynt.   Cofiwch ganolbwyntio ar y cadarnhaol.  Efallai y bydd yn rhaid i bethau newid am gyfnod ond nid yw hynny’n golygu na allwch fod yn gariadus gyda phartner neu wneud i’ch gilydd deimlo’n dda.

Gwnewch gynllun

Dyw hyn ddim yn swnio’n gyffrous iawn, ond mae’n rhan bwysig o’ch cyfathrebu â’ch partner.

Os nad oes gennych bartner, gallai cynllun eich helpu i deimlo’n hyderus a gwneud penderfyniadau cyn mynd allan.

Os oes gennych bartner, peidiwch ag anghofio’r rhamant – mae bod yn gariadus ac emosiynol gyda rhywun yn fwy na dim ond rhyw.  Gall y pethau bach y gallwch eu gwneud gyda’ch gilydd wneud i rywun deimlo’n arbennig.

Pa mor bell ydych chi am fynd?  Mae rhyw yn fwy na threiddiad – gall gynnwys gorwedd gyda’ch gilydd yn rhannu meddyliau a syniadau, mwytho, cyffwrdd, cyd-fastyrbio neu fastyrbio unigol neu ryw geneuol.

A oes adeg o’r dydd a fyddai’n well i chi neu a oes pethau a allai eich helpu i baratoi fel bath cynnes neu massage?

Oes angen i chi fynd i siopa?  Mae llawer o bobl yn gweld bod hylif iro, teganau, dillad neu glustogau cymorth yn eu helpu i deimlo’n arbennig.

Siaradwch â’ch meddyg os yw eich poen cyhyrau, esgyrn neu gymalau neu feddyginiaeth triniaeth yn achosi anawsterau wrth gael codiad neu sychder gweiniol.  Gallai siarad â’ch therapydd eich helpu i ddeall pa safleoedd sydd orau i roi cynnig arnynt.

Ond byddwch yn barod i bethau fynd o chwith!

Mae gallu chwerthin am hyn yn hanfodol.  Bydd rhywbeth yn mynd o’i le rywbryd.  Bydd y cŵn yn torri ar draws, bydd eich mam-yng-nghyfraith yn penderfynu ymweld neu gall y safle rydych chi’n rhoi cynnig arno wneud i gyhyrau eich coes grampio gan dorri lamp.

Y peth pwysig yw peidio â rhoi’r gorau i geisio cael hwyl!

Gwybodaeth ychwanegol:

Cymdeithas Genedlaethol Arthritis Gwynegol Emosiynau, perthnasoedd a rhywioldeb

Arthritis UK – Rhyw, perthnasoedd ac arthritis

Gwybodaeth
Menu