Mae cael digon o gwsg da yn rhan hanfodol o ffordd iach a chytbwys o fyw. Mae cwsg gwael rheolaidd yn eich rhoi mewn perygl o gyflyrau meddygol difrifol, gan gynnwys gordewdra, clefyd y galon a diabetes – ac mae’n lleihau eich disgwyliad oes.

Mae’n amlwg bellach fod noson dda o gwsg yn hanfodol ar gyfer bywyd hir ac iach.

Mae cwsg gwael yn golygu nad yw ein corff yn gallu adfer ac atgyweirio ei hun. Mae symptomau fel poen yn cael eu gwneud yn waeth pan na chawn ddigon o gwsg o ansawdd da.

Pam mae cysgu’n dda i chi?

  • Mae cwsg yn hybu imiwnedd
  • Mae cwsg yn helpu i reoli pwysau iach
  • Mae cwsg yn hybu iechyd a lles meddyliol
  • Mae cwsg yn cynyddu eich awydd am ryw
  • Mae cwsg yn lleihau’r risg o ddiabetes a chlefyd y galon
  • Mae cwsg yn cynyddu ffrwythlondeb

Gall llawer o bobl hefyd deimlo’n flinedig drwy’r amser.  Gelwir hyn yn flinder.

Rydyn ni i gyd yn teimlo’n flinedig o bryd i’w gilydd, ond os ydych chi wedi blino drwy’r amser, byddwch chi eisiau gwybod pam, mae’n siŵr.

Gofynnwch i’ch hun a oes unrhyw rannau penodol o’ch bywyd yn eich blino – gall fod yn gysylltiedig â’r gwaith neu deulu.  A wnaeth unrhyw ddigwyddiadau penodol sbarduno’r teimlad hwn?  Gall ddeillio o ddigwyddiad bywyd mawr fel salwch aelod o’r teulu, diswyddo neu brofedigaeth.

Byddai eich meddyg teulu yn edrych i weld a oes achos corfforol neu seicolegol i’ch blinder ond mae nifer o bethau y gallech eu gwneud i’ch helpu eich hun.  Efallai na fydd angen i chi weld eich meddyg teulu!

Ffyrdd o wella eich cwsg a threchu blinder

  • Symud – mae ymarfer corff rheolaidd yn lleihau’r teimlad o flinder yn yr hirdymor
  • Cynlluniwch eich diwrnod a gosodwch eich cyflymder i osgoi’r cylch gweithgarwch ‘ffynnu a methu’
  • Colli pwysau
  • Bwyta prydau rheolaidd, iach
  • Cadwch drefn amser gwely reolaidd a gwnewch amser i gysgu (dim napio!)
  • Torrwch gaffein ac alcohol allan
  • Rhowch gynnig ar ymarfer meddwlgarwch neu ymlacio

Os hoffech gael copi printiedig o’r wybodaeth uchod, defnyddiwch y ddolen hon

Gwasanaeth Rheoli Symptomau

Cwsg a blinder – GIG

Cysgu’n well | My Live Well With Pain

Mae blinder o bwys

I gael gwybodaeth am wasanaethau i helpu i reoli straen, dod o hyd i gyfleoedd lleol i ofalu am les meddyliol, gwybodaeth am feddwlgarwch a llawer mwy, ymwelwch â Melo.  Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi datblygu’r wefan hon gyda phartneriaid i ofalu am les meddyliol pobl sy’n byw ac yn gweithio yn yr ardaloedd hyn; Torfaen, Casnewydd, Sir Fynwy, Caerffili, Blaenau Gwent

Os ydych chi’n ofalwr, cymerwch olwg ar yr adnoddau ar y dudalen gofalwyr

Gwybodaeth
Menu