Cyflyrau Cyhyrysgerbydol – CYs
Yn aml, caiff problemau gydag esgyrn, cymalau, nerfau a chyhyrau eu grwpio gyda’i gilydd a’u galw’n gyflyrau cyhyrysgerbydol. Yn aml, mae ‘cyhyrysgerbydol’ yn cael ei fyrhau i CYs yn Gymraeg neu MSK yn Saesneg.
Mae’r wefan hon wedi’i chynllunio i ddarparu gwybodaeth a chyngor ar:
- sut y gallwch reoli mân anafiadau eich hun
- byw gyda phroblem hirdymor gyda’ch esgyrn, eich cyhyrau neu’ch cymalau
- deall beth allai fod yn cyfrannu at eich poen neu’ch problem a’r hyn y gallech ei wneud am y peth
Meddwl am ddewisiadau
Ein Iechyd – Ein Gwybodaeth – Mae’r cwrs gwe byr hwn wedi’i gynllunio i helpu pobl sy’n meddwl am ddewisiadau ym maes gofal iechyd. Mae hynny’n cynnwys cleifion, aelodau o’r teulu, gofalwyr, myfyrwyr gofal iechyd, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, a llunwyr polisi.
ENGLISH













