Darperir gwasanaeth mân anafiadau mewn unedau mân anafiadau a arweinir gan yr Ymarferydd Nyrsio Brys.
Mae mân anafiadau yn anafiadau i goesau a breichiau sy’n cynnwys troi/straenio, esgyrn wedi torri a mân ddatgymaliadau cymalau (e.e. bysedd a bysedd traed), clwyfau a mân losgiadau, anafiadau i’r clustiau a’r llygaid, mân anafiadau i’r pen yn ogystal â mân anafiadau i’r cefn a’r gwddf.
Mae 4 uned mân anafiadau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Mae’r rhain yn:
- Ysbyty Nevill Hall
- Ysbyty Brenhinol Gwent
- Ysbyty Ystrad Fawr
- Ysbyty Aneurin Bevan
Gellir trin oedolion a phlant dros flwydd oed mewn uned mân anafiadau.
I gael gwybodaeth am anafiadau y gellir eu rheoli mewn adrannau mân anafiadau yn y Bwrdd Iechyd, ewch i’r tudalennau gwe BIPAB hyn – Unedau Mân Anafiadau – Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
O bryd i’w gilydd, gall y nyrs brysbennu neu’r Ymarferydd Nyrsio Brys asesu eich anaf fel un a allai fod yn fwy difrifol, ac efallai y bydd angen i chi gael eich ailgyfeirio i’r Adran Achosion Brys yn Ysbyty Athrofaol y Faenor.
Os nad ydych yn siŵr ble i fynd, gall GIG 111 eich helpu.
I gael help gan GIG 111, gallwch:
- fynd i 111.nhs.uk (ar gyfer pobl 5 oed a throsodd yn unig)
- ffonio 111
Byddwch yn ateb cwestiynau am eich symptomau ar y wefan, neu drwy siarad â chynghorydd sydd wedi’i hyfforddi’n llawn dros y ffôn, a gallwch ofyn am gyfieithydd os oes angen un arnoch.
Yn dibynnu ar y sefyllfa, byddwch yn:
- cael gwybod pa wasanaeth lleol all eich helpu
- cael eich cysylltu â nyrs, deintydd brys, fferyllydd neu feddyg teulu
- cael apwyntiad wyneb-yn-wyneb os oes angen un arnoch
- cael gwybod sut i gael unrhyw feddyginiaeth sydd ei hangen arnoch
- cael cyngor hunanofal
ENGLISH












