Beth yw poen yng ngwaelod y cefn?
Mae poen yng ngwaelod y cefn yn symptom cyffredin iawn sy’n effeithio ar tua 8 allan o 10 ohonom ar ryw adeg yn ystod ein bywyd. A dweud y gwir, mae’n fwy anghyffredin os nad ydych chi wedi cael poen yn eich cefn ar ryw adeg! Bydd symptomau’r rhan fwyaf o bobl yn gwella’n naturiol, gydag ychydig o amser a thrwy fod yn egnïol ac yn bositif. Fodd bynnag, i rai, mae poen yng ngwaelod y cefn yn brofiad rheolaidd neu hyd yn oed yn un cyson, sy’n effeithio ar symudedd, gweithredoedd y corff ac ansawdd bywyd yn gorfforol ac yn feddyliol.
Yn y rhan fwyaf o achosion (98%), nid yw poen yng ngwaelod y cefn yn gysylltiedig â chlefyd neu batholeg ddifrifol, ond â’r rhyngweithio rhwng:
- systemau ein corff (strwythurau anatomegol, cyhyrau, meinweoedd meddal, cymalau a nerfau a ffitrwydd corfforol),
- ein hymennydd a’n system nerfol (sy’n rheoli ein cyrff ac yn rhoi meddyliau a theimladau i ni) a’r
- amgylchedd (y llefydd rydym ni’n byw ynddynt, yn gweithio ac yn chwarae).
Fel gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n cefnogi pobl sy’n profi poen yng ngwaelod y cefn, rydym yn fwy ymwybodol bod yn rhaid i ni helpu pobl i ddeall sut y gall pob agwedd ar iechyd a lles ddylanwadu ar boen cefn, a’r ffordd orau o’i drin. Mae cael y wybodaeth a’r cyngor cywir yn gynnar, a chreu cynllun a glynu wrtho yn gamau pwysig i wella eich rheoli eich poen.
Efallai eich bod wedi clywed termau fel ‘poen cefn syml’, ‘poen cefn mecanyddol’ a ‘phoen cefn cyhyrysgerbydol’. Mae’r rhain i gyd yn dermau a ddefnyddir i ddisgrifio poen cefn cyffredin a deimlir yng ngwaelod y cefn a/neu’r pen-ôl. Mae rhai pobl yn cael poen cefn ar un ochr, yn y canol neu ar y ddwy ochr. Mae’r boen yn aml yn cael ei heffeithio gan symudiadau fel plygu neu gerdded ond gall hefyd waethygu trwy eistedd neu sefyll yn ogystal â llawer o weithgareddau bob dydd eraill. Nid yn aml y bydd gan y math hwn o boen cefn achos y gellir ei weld neu ei adnabod ar ddelweddau pelydr-x neu sganiau, ac felly cyfeirir ato hefyd fel poen amhenodol yng ngwaelod y cefn.
Erbyn hyn, ni argymhellir archwiliad pelydr-x ar gyfer poen yng ngwaelod y cefn yn y rhan fwyaf o achosion, a dim ond mewn nifer fach o bobl sydd â phoen cefn ac arwyddion a symptomau eraill y mae sganiau MRI yn ddefnyddiol.
Beth yw’r symptomau yn y coesau sy’n gysylltiedig â phoen yng ngwaelod y cefn (sciatica)?
Mae symptomau yn y coesau sy’n gysylltiedig â phoen yng ngwaelod y cefn hefyd yn nodwedd gyffredin.
Mae’r rhan fwyaf ohonom wedi clywed y term sciatica. Y nerf sciatig yw’r nerf mawr sy’n rhedeg i lawr cefn eich coes. Caiff ei ffurfio gan nifer o wreiddiau nerfau sy’n dod o linyn asgwrn y cefn. Mae wedi’i wneud o nerfau sy’n trosglwyddo negeseuon i linyn yr asgwrn cefn a’ch ymennydd i weddill eich corff.
Yn ogystal â theimlo pwysau ysgafn, mae gan y nerfau hyn y potensial hefyd i gynhyrchu negeseuon o boen. Mae’n bwysig gwybod nad yw pob symptom yn y goes sy’n gysylltiedig â phoen cefn yn cael ei achosi gan y nerf sciatig a dyna pam mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sydd wedi’u hyfforddi’n briodol yn dewis peidio â labelu pob symptom yn y coesau yn sciatica.
Gall gwreiddiau’r nerfau weithiau achosi symptomau yn y coesau er enghraifft, os ydynt yn llidus neu wedi’u cywasgu wrth iddynt adael llinyn y cefn. Mae profiadau cyffredin o symptomau gwreiddyn nerf y goes yn cynnwys poen, pinnau bach a/neu ddiffyg teimlad i lawr un goes, gyda symptomau’r goes yn aml yn fwy trafferthus nag unrhyw boen cefn cysylltiedig. Yr achosion mwyaf cyffredin dros broblem gyda gwreiddyn y nerf yw’r disg rhyngfertebraidd a newidiadau dirywiol (sy’n gysylltiedig ag oedran) yn yr asgwrn cefn. Er ein bod yn gyfarwydd â’r ymadrodd cyffredin ‘disg wedi llithro’, nid yw disgiau mewn gwirionedd, yn llithro nac yn dod allan. Defnyddir termau meddygol fel disgiau chwyddedig, disgiau â phrolaps neu ddisgiau herniaidd hefyd.
Mae gan bob un ohonom ni ddisgiau sy’n chwyddo wrth i ni heneiddio, a bydd gan bob un ohonom nodweddion heneiddio yn ein hasgwrn cefn. Mae hyn yn normal. Gall rhai chwyddiadau disg fod yn fwy neu’n wahanol nag eraill, a bydd heneiddio’n ymddangos yn fwy arwyddocaol mewn rhai pobl nac eraill. Mae nifer o resymau am hyn. Ar adegau gall y newidiadau hyn gyfrannu at fwy o sensitifrwydd a chywasgu gwreiddiau’r nerfau (gan arwain at symptomau yn y coesau), ar adegau eraill ac mewn pobl eraill, nid yw’n digwydd.
Mae’r rhan fwyaf o ddisgiau sy’n chwyddo yn lleihau dros amser ac mae’r symptomau cysylltiedig fel arfer yn gwella. Nid yw’r nodweddion dirywiol yn diflannu, ond gellir tawelu, gwella a rheoli’r symptomau y maen nhw’n eu cynhyrchu fel bod yr asgwrn cefn a’r corff yn parhau i weithio’n effeithlon. Meddyliwch amdano fel hyn – nid yw pob unigolyn sy’n 70 neu’n 80 mlwydd oed yn wan â phoen sylweddol yn y cefn a’r coesau er y bydd ganddynt yn bendant, ddisgiau wedi chwyddo a newidiadau yn eu hasgwrn cefn a ddaw o ganlyniad i oedran.
Mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n profi symptomau yn y coesau sy’n gysylltiedig â phoen cefn yn gwella’n naturiol, ond gall hyn gymryd mwy o amser na phoen cefn yn unig. Mewn rhai achosion, lle nad yw poen cefn a symptomau cysylltiedig yn y goes yn gwella, mae’n ddoeth i weithiwr gofal iechyd proffesiynol sydd wedi’i hyfforddi’n briodol, eich asesu er mwyn rhoi cyngor i chi ynglŷn â’r opsiynau rheoli a argymhellir. Mewn achosion nad ydynt yn gwella er gwaethaf dilyn y cyngor a’r triniaethau proffesiynol, gall sgan MRI fod yn ddefnyddiol i ddeall a all triniaethau eraill fel pigiadau ac mewn ychydig iawn o achosion, llawdriniaeth helpu.
Er bod y symptomau yn eich cefn a’ch coesau’n gallu teimlo’n eithaf gwael, ni ddylech anghofio fod tystiolaeth yn awgrymu bod y rhan fwyaf o bobl yn gwella gydag amser a gyda’r dull cywir o wella – mae hyn yn newyddion cadarnhaol iawn.
Cyngor ac Addysg
Rydym yn gwybod bod cael gwybodaeth ddibynadwy, gyfredol am y broblem feddygol rydych chi’n delio â hi yn bwysig a gall wella’ch canlyniadau. Dyna pam y datblygwyd y tudalennau gwe hyn a pham ei bod hi’n bwysig eich bod chi’n darllen ac yn ystyried y wybodaeth a’r cyngor. Rydym wedi darparu adnoddau dibynadwy eraill i chi eu gweld a’u defnyddio ar y tudalennau hyn hefyd.
Ni argymhellir gorffwys yn y gwely am gyfnod hir ar gyfer poen yng ngwaelod y cefn a symptomau cysylltiedig yn y goes, gan nad yw’n rhoi unrhyw fudd yn y tymor hir a gall, mewn rhai achosion arafu’r gwella. Fodd bynnag, cydnabyddir y gall rhywfaint o orffwys cychwynnol ar ôl anaf fod yn anochel ac yn briodol. Dylech anelu at orffwys am ddim mwy na 48 awr a chynyddu eich symudiadau a’ch gweithgareddau’n raddol.
Yn aml, poen yw’r prif reswm y mae pobl yn ceisio cymorth ar gyfer eu cefn a’r symptomau cysylltiedig yn y coesau. Mae cadw’r boen dan reolaeth yng nghyfnod cynnar y boen yng ngwaelod eich cefn neu’r symptomau yn y coesau yn gallu bod yn gam sylweddol i’r cyfeiriad cywir tuag at gael adferiad naturiol a chyrraedd eich normal unwaith eto. Yn aml, gellir rheoli poen yn effeithiol gyda meddyginiaethau syml dros y cownter, er bydd trafodaeth â’ch meddyg teulu neu fferyllydd lleol fod yn bwysig cyn dechrau unrhyw feddyginiaeth newydd i sicrhau nad yw’n niweidiol i chi.
Mae ibuprofen yn gyffur gwrthlidiol ansteroidaidd ac fe’i hargymhellir ar gyfer poen yng ngwaelod y cefn. Er hynny, dylai rhai pobl osgoi defnyddio ibuprofen a dylai eraill ei ddefnyddio’n ofalus. Dylai’r rhai sydd â methiant difrifol ar y galon, hanes o wlserau stumog, clefyd yr afu neu asthma, a’r rhai sy’n cymryd aspirin neu sydd wedi cael adwaith blaenorol i gyffuriau gwrthlidiol ansteroidaidd siarad â’u meddyg teulu neu fferyllydd cyn dechrau cymryd ibuprofen. Defnyddiwch feddyginiaethau poen yn ôl y cyfarwyddiadau ar y label neu’r daflen. Trafodwch gyda’ch meddyg teulu neu fferyllydd os ydych chi’n cael unrhyw sgil-effeithiau neu os nad yw’r meddyginiaethau hyn yn helpu ar ôl pythefnos.
Poeth/Oer – defnyddiwch becynnau cywasgu poeth neu oer i gael rhyddhad tymor byr – gallwch brynu’r rhain o fferyllfa, neu bydd potel dŵr poeth neu fag o lysiau wedi’u rhewi a’u lapio mewn lliain neu dywel yn gweithio cystal. Mae rhagor o wybodaeth ar gael am driniaeth gwres ac ia.
Os ydych chi’n profi symptomau parhaus yn eich coes sy’n gysylltiedig â’r nerfau oherwydd poen yng ngwaelod eich cefn, mae rhai meddyginiaethau a all fod o gymorth weithiau. Enw’r rhain yw Amitriptyline / Gabapentin ac efallai y byddai’n werth eu trafod gyda’ch meddyg teulu.
Anogir y meddyginiaethau effeithiol symlaf a mwyaf diogel yn gyntaf. Os yw eich poen yn parhau i achosi pryder, gan effeithio ar gwsg a thasgau bob dydd syml, mae’n ddoeth ymgynghori â’ch meddyg teulu i drafod eich opsiynau ar gyfer meddyginiaeth i leddfu poen.
Therapi â Dwylo
Therapi â dwylo yw’r term cyffredin a ddefnyddir i ddisgrifio triniaeth ‘ymarferol’ a ddarperir gan therapydd fel ffisiotherapydd, ceiropractydd, osteopath, therapydd chwaraeon a thylino, i enwi ond rhai. Y prif ddulliau triniaeth yw trin, symudiad a thylino’r asgwrn cefn gyda’r nod o leihau poen, gwella symudiad a chynorthwyo gweithrediad y corff.
Mae canllawiau presennol y DU yn awgrymu na ddylai’r triniaethau hyn ddigwydd ar eu pen eu hunain ond eu bod yn rhan o becyn gofal ochr yn ochr â gweithgareddau ac ymarfer corff.
Mae pob ffisiotherapydd GIG wedi’i hyfforddi i ddarparu therapi â dwylo sy’n briodol ar gyfer eich anghenion a’ch nodau. Os ydych chi am ystyried triniaeth breifat, gwnewch yn siŵr bod y therapydd rydych chi’n ei weld wedi’i gofrestru gyda chorff llywodraethu dilys yn y DU. Gallwch hefyd wirio a ydych chi’n derbyn y gofal diweddaraf a argymhellir drwy ofyn i’ch therapydd a ydyn nhw’n ymwybodol o’r Canllawiau Cenedlaethol ar reoli poen yng ngwaelod y cefn a sciatica (NICE NG59), a sut mae’r cynllun triniaeth maen nhw wedi cytuno arno gyda chi yn adlewyrchu hyn.
Mae’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) wedi cyhoeddi Gwybodaeth i’r cyhoedd ar y pwnc hwn.
Gweithgarwch ac Ymarfer Corff
Rydym yn gwybod bod ymarfer corff yn un o’r dulliau mwyaf pwerus ar gyfer helpu pobl i reoli llawer o broblemau cyhyrysgerbydol a phoen parhaus. Fodd bynnag, i lawer o bobl sydd â phroblemau parhaus nid yw hyn bob amser yn gwneud synnwyr.
Byddwch wedi darllen bod y rhan fwyaf o achosion o boen yng ngwaelod y cefn a symptomau cysylltiedig yn y coesau yn gyfuniad o’r rhyngweithio rhwng y system gorfforol, yr ymennydd a’r system nerfol a’n hamgylchedd. Rydym ni’n gwybod y gall bod yn egnïol ac ymarfer ein corff gyflyru ein strwythurau anatomegol (cyhyrau, tendonau, esgyrn), gwella ein ffitrwydd corfforol, rheoli ein meddyliau a’n teimladau a chaniatáu i ni reoli heriau ein hamgylchedd.
Felly, beth a olygir gan ymarfer corff? Wel, bron unrhyw beth mewn gwirionedd. Cyn belled â’i fod yn gweithio’ch aelodau a’ch cefn neu’ch calon a’ch ysgyfaint, neu’r ddau yn ddelfrydol, bydd yn helpu lleddfu eich poen a sut rydych chi’n symud a sut mae eich corff yn gweithredu. Mae’n bwysig cael cydbwysedd ac ychydig o ymarfer corff, yn aml yw’r lle gorau i ddechrau fel arfer.
Mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n ymarfer corff yn rheolaidd yn gwneud hynny oherwydd eu bod yn ei fwynhau ac yn aml, oherwydd ei fod yn rhywbeth cymdeithasol, neu’n rhywbeth i’w wneud â ffrindiau y maen nhw’n mwynhau treulio amser gyda nhw. Felly, mae’n werth ystyried y pethau hyn wrth i chi baratoi eich cynllun.
Rydym wedi rhoi llawer o wybodaeth ar y wefan am gyfleusterau hamdden a grwpiau a allai eich helpu i ddod o hyd i weithgarwch rydych chi’n ei fwynhau.
Un opsiwn i’ch helpu i ddod yn fwy hyderus wrth ymarfer corff yw’r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i wneud Ymarfer Corff, neu NERS yn fyr. Mae’r cynllun hwn ar gael ledled rhanbarth Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Mae’n cael ei gynnal yn y gymuned gan y rhan fwyaf o ganolfannau hamdden sy’n cael eu rhedeg gan y cyngor. Mae’n cynnig amrywiaeth o weithgareddau ac ymarfer corff, ac mae rhywbeth i bawb. Mae angen i’ch meddyg teulu, ffisiotherapydd neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall eich cyfeirio. Mae cost fach yn gysylltiedig â’r rhaglen. Mae’n angenrheidiol eich bod chi’n ymrwymo i fynychu ddwywaith yr wythnos am 16 wythnos. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y daflen NERS hon.
Mae ffisiotherapi yn opsiwn arall ar gyfer helpu gyda symptomau eich poen cefn. Mae ffisiotherapyddion yn arbenigwyr ar symudiad a sut y gall poen neu glefyd effeithio arno. Gall ffisiotherapydd asesu eich sefyllfa a’ch gallu corfforol, a thrafod argymhellion ar sut i leihau rhai o’ch symptomau a gwella gweithrediad eich corff. Bydd pa opsiynau’n union a ddefnyddir yn amrywio, gan ddibynnu ar yr unigolyn, a’r hyn y mae’r ffisiotherapydd yn ei ganfod. Bydd yr opsiynau hyn yn cael eu trafod gyda chi adeg eich asesiad.
Mae ffisiotherapyddion bron bob amser yn argymell ymarfer corff i wella ffitrwydd corfforol. Gallant eich helpu i ddod o hyd i’r opsiwn cywir i chi. Mae rhai o’n hadrannau ffisiotherapi yn cynnig dosbarthiadau ymarfer corff mewn grŵp er mwyn gwella ffitrwydd corfforol i’r rhai sydd â phoen cefn a symptomau cysylltiedig yn y coesau. Fel arfer, sesiynau ymarfer corff 30-60 munud a gynhelir unwaith yr wythnos am hyd at 6 wythnos yw’r rhain. Os oes gennych chi ddiddordeb, trafodwch â’ch ffisiotherapydd.
Mae rhai pobl yn teimlo’n hyderus i ymarfer corff heb gefnogaeth broffesiynol, ac rydym yn cefnogi hyn yn llwyr. Chi sydd i benderfynu sut i ymarfer corff, naill ai ar eich pen eich hun, gyda ffrindiau, fel rhan o NERS neu gyda’r Adran Ffisiotherapi.
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am ymarfer corff ar wefan Ymarfer Corff y GIG.
Rheolaeth Seicolegol Wybodus
Rydych chi eisoes wedi darllen bod ein meddyliau a’n teimladau’n gallu dylanwadu’n sylweddol ar ein hymddygiad ac felly gallant effeithio ar ein potensial i wella ac adsefydlu’n llwyddiannus. Gall hwn fod yn faes pwysig i rai unigolion sy’n profi poen parhaus a phroblemau a gweithrediad y corff, ac mae angen ei ystyried cymaint â’u hiechyd a’u ffitrwydd corfforol. Mae cael cyfle i drafod rhai o’r materion hyn a chyflwyno rhai strategaethau yn ddefnyddiol iawn i rai. Mae pob ffisiotherapydd y GIG wedi’i hyfforddi i gefnogi unigolion sydd â phryderon cyhyrysgerbydol cyffredin a phryderon poen, ond mewn rhai achosion efallai y bydd angen trafodaeth gyda’ch meddyg teulu a’r opsiynau ar gyfer cwnsela pellach gyda gweithiwr proffesiynol yn y maes hwn.
Ffisiotherapi
Mae ffisiotherapi’n ymwneud ag adfer a gwneud y mwyaf o weithrediad y corff ac annibyniaeth pan fydd rhywun wedi’i effeithio gan anaf, salwch neu anabledd. Mae Ffisiotherapyddion y GIG i gyd wedi cofrestru gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal ac wedi’u hyfforddi hyd at lefel uchel i ystyried iechyd a lles yr ‘unigolyn cyfan’. Mae ffisiotherapyddion Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn derbyn hyfforddiant ychwanegol ar boen cefn a symptomau cysylltiedig yn y coesau ac maen nhw’n gallu defnyddio’r holl driniaethau (cyngor, addysg, ymarfer corff a therapi â dwylo) a’r cymorth rydych chi wedi darllen amdano yma, gan sicrhau bod y gofal a gewch yn gyson ac yn gyfredol â chanllawiau cenedlaethol y DU. Mae’r gwasanaeth ffisiotherapi wedi’i strwythuro mewn ffordd sydd hefyd yn sicrhau bod cefnogaeth bellach ar gael i gleifion ar ymchwiliadau ac opsiynau y tu hwnt i ffisiotherapi pan fo’n briodol ac yn angenrheidiol.
Mae’r fideo canlynol yn dangos profiad claf o ffisiotherapi:
Fideo Claf Addysg OCG Cefnau
ESCAPE-Pain for Backs
Mae ESCAPE-Pain for Backs yn rhaglen sydd wedi’i chynllunio i fod o fudd i bobl sydd â phoen cefn parhaus, gan roi’r sgiliau a’r technegau i chi reoli’ch poen cefn eich hun.
Dilynwch y ddolen isod i gael golwg fanylach ar y dudalen.
Pigiadau
Ni argymhellir pigiadau ar gyfer poen yng ngwaelod y cefn yn unig. Fodd bynnag, gall pigiadau ar gyfer symptomau yn y coesau sy’n gysylltiedig â phoen yng ngwaelod y cefn fod yn ddefnyddiol weithiau os yw’r cyflwyniad a’r sganiau MRI dilynol yn gyson ac nad oes budd wedi bod o reolaeth geidwadol.
Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, os nad yw eich symptomau’n gwella, bydd angen eich cyfeirio at dîm Asgwrn Cefn Orthopedig naill ai’n breifat neu drwy’r GIG i gael asesiad a thrafodaeth bellach ar yr opsiynau hyn.
Os ydych chi’n teimlo y gallai pigiadau helpu’ch cyflwr, trafodwch hyn gyda gweithiwr gofal iechyd proffesiynol priodol, gan fod yn glir ynglŷn â pham mae’r opsiwn hwn yn iawn i chi.
Llawdriniaeth
Ni argymhellir llawdriniaeth ar gyfer poen yng ngwaelod y cefn yn unig. Fodd bynnag, gellir ystyried llawdriniaeth ar gyfer symptomau yn y coesau sy’n gysylltiedig â phoen yng ngwaelod y cefn os yw cyflwyniad yr unigolyn a’r sgan MRI dilynol yn cefnogi angen, neu os oes gan yr unigolyn symptomau parhaus nad ydynt wedi cael cymorth digonol gyda rheolaeth geidwadol a therapi pigiadau. Yn yr achos hwn, byddai angen i chi gael eich cyfeirio neu barhau â’ch gofal gyda thîm Asgwrn Cefn Orthopedig naill ai’n breifat neu drwy’r GIG i gael asesiadau a thrafodaeth bellach ar yr opsiynau hyn.
Os ydych chi’n teimlo y gallai llawdriniaeth helpu’ch cyflwr, trafodwch hyn gyda gweithiwr gofal iechyd proffesiynol priodol, gan fod yn glir ynglŷn â pham mae’r opsiwn hwn yn iawn i chi.
Dyma fideo gan Mr Manoj-Thomas, un o’n Llawfeddygon Asgwrn Cefn Orthopedig sy’n gweithio ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan:
Fideo Ymgynghorol OCG Cefnau
Gwybodaeth Ychwanegol
Canllawiau a Chyngor Poen Cefn
Canllawiau NICE i’r cyhoedd
Cymdeithas Siartredig Ffisiotherapi
Arthritis UK
Colli Pwysau
Mae llawer o sefydliadau’n cynnig cymorth a chyngor i bobl sy’n dymuno colli pwysau a chynnal ffordd iach o fyw.
- Dysgwch fwy am fwyta’n iach
- Dysgwch fwy am yfed yn iach
- Dysgwch fwy am bwysau iach
- Dysgwch fwy am roi’r gorau i ysmygu
Gwasanaethau Cymunedol
Dysgwch beth sydd ar gael yn eich cymuned leol ar wefan Dewis Cymru
Rydych bellach wedi darllen llawer o wybodaeth am boen cefn isaf a symptomau cysylltiedig yn y goes.
Da iawn chi, mae hwn yn ddechreuad gwych i’ch helpu eich hun a dod o hyd i’r driniaeth gywir i chi.
ENGLISH

















